Sgwrs:Y Greal Santaidd

Latest comment: blwyddyn yn ôl by Craigysgafn in topic Cyfraniad dienw


Cyfraniad dienw golygu

Rwyf wedi tynnu'r cyfraniad hwn oddi wrth ddefnyddiwr dienw a'i ludo yma oherwydd ei fod yn cynnwys rhai meddyliau diddorol, ond mae yna broblem:

Camddehongliad O “Greal Sanctaidd” yw wrth wraidd y peth. Ystyr “greal” yn yr hen Gymraeg yw “casgliad, teulu, dilynwyr, torf” a’r Greal Sanctaidd yw’r Teulu neu Dilynwyr Sanctaidd. Hyn yn adlewyrchu’r hen chwedl am Joseff o Arimathea (Ilid) yn arwain Teulu’r Iesu i Ddinas Bran yn Llangollen. Y gweddill, ynglyn a “cwpan” neu “carreg” sanctaidd wedi ei ychwanegu gan y Ffrancwyr yn y Canol Oesoedd. Camddehongliad yn arwain at straeon mawr gan Chretien de Troyes, Woolfram von Eschenbach ac eraill.

Y broblem yma yw mai sylw diamynedd ar ddehongliad prif ffrwd y Greal yw hwn, ac nid cyfraniad priodol i erthygl gwyddoniadur. Allwch chi gyflenwi ffynonellau (llyfrau, erthyglau, gwefannau) sy'n mynegi'r safbwynt hwn? Byddai hynny'n ddiddorol ac yn ddefnyddiol. Craigysgafn (sgwrs) 22:53, 24 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb

Heddiw cafodd y dudalen ei gwagio gan ddefnyddiwr dienw. Mae'n debyg yr un defnyddiwr dienw. Mae hyn yn ymddygiad annerbyniol. Am y foment mae'r dudalen wedi'i diogelu rhag newidiadau. --Craigysgafn (sgwrs) 08:34, 25 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Y Greal Santaidd".