Sgwrs:Gwregys Orïon

(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Y Groes Fendigaid)
Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Enw Cymraeg

Enw Cymraeg golygu

Symudais hyn o 'Y Groes Fendigiaid' (='Y Groes Fendigaid') am mai 'Gwregys Orion' yw'r enw cyfarwydd. Wn i ddim o ble daw'r enw 'Y Groes Fendigaid': does dim sôn amdano dan na 'croes' na 'bendigaid' yn Geiriadur Prifysgol Cymru. Dim cyfeiriad at yr enw yn yr erthygl ar y wici Saesneg chwaith. Mae'r enwau eraill a gynigir yn enwau estron (Sbaeneg ayyb) yn ôl yr erthygl ar y wici Saesneg. Anatiomaros (sgwrs) 00:10, 15 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb

Beth? Gwelwch Eiriadur Prifysgol Cymru: nid oed sôn am Wregys Orion; y Groes Fendigaid yw'r enw a roir. Awgrymaf eich bod yn newid yr erthygl yn ôl i'r Groes Fendigiaid am fod mwy o dystiolaeth yn gefn i'r enw hwnnw.

Teipiwch 'y groes fendigaid' yma ar wefan Geiriadur Prifysgol Cymru: http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html

(Y Crwydryn) 01:29, 15 Gorffennaf 2014 (UTC)~Ateb

O edrych dwi'n gweld rwan fod enghraifft o "Y Groes Fendigaid" i'w chael yn GPC (yng Nghyfrol I o'r argraffiad print chwiliais, nid y fersiwn ar-lein). Ymddiheuraf am hynny, felly. Ond dwi'n hollol iawn i ddweud mai 'Gwregys Orion' yw'r term arferol mewn Cymraeg Cyfoes. Mae'r "Groes Fendigaid" a'r ddau enw arall sy gen ti yn hynafiaethol erbyn hyn. Er enghraifft gweler Traditional Names of Astronomical Objects (in Wales) lle ceir pedwar enw hynafol/traddodiadol (sef 'Llathen Fair', 'Y Tri Brenin', 'Y Groes Fendigaid' a 'Llathen Teiliwr') ond lle nodir Gwregys Orion fel y term cyfoes (h.y. "Common modern Welsh name"). Gweler hefyd BBC Radio Cymru ("M42 - nifwl yng nghyffiniau Gwregys Orion").
Dwi'n cynnig symud hyn yn ôl i Gwregys Orion ond rhag ofn i hynny arwain at anghydfod arosaf i gael barn eraill yn gyntaf. Anatiomaros (sgwrs) 00:34, 16 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Wel dyna ddiddorol! Chlywais i rioed am run o'r rhain! Ar wahan wrth gwrs i Wregys Orion; a gan mai dyna'r enw cyfarwydd, arferol dyna ddylai enw'r erthygl fod. Ond mae'n rhaid cynnwys y gweddill yn ei chorff yn rhywle! Cytuno efo Anatiomaros felly. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:30, 16 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Mae GPC yn cynnig: Cogail y Forwyn (1 canlyniad Google); y Groes Fendigaid (44 canlyniad); llathen Fair (24 canlyniad). Mae GyrA yn cynnig: Llathen Fair; y Groes Fendigaid; y Tri Brenin; Llathen Teiliwr (1 canlyniad). Pan daraf "gwregys Orion" i mewn, caf 24 canlyniad. O ran canlyniadau, y Groes Fendigaid sydd fwyaf poblogaidd yn yr e-fyd. Ond fyddwn i'n deall ystyr y peth tasai rywun ei ddweud wrthyf? Na fyddwn! Felly, yn bersonol, hoffwn i weld "Gwregys Orïon" (gyda'r didolnod) yn enw ar yr erthygl, gyda chyfeiriad at yr enwau traddodiadol. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:59, 17 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Mae cyfeirio at yr enwau traddodiadol yn iawn, wrth gwrs, gan nodi eu tarddiad os posibl. Dwi'n meddwl fod 'Y Groes Fendigaid', 'Y Tri Brenin' a 'Llathen Fair' yn tarddu o Gristnogaeth Gatholig yr Oesoedd Canol yn Ewrop; ceir enwau cyffelyb yn Sbaeneg er enghraifft, fel a nodir yn yr erthygl ar y wici Saesneg. Mae 'Y Groes Fendigaid' yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at y Groes ei hun, wrth gwrs, ac nid at Wregys Orion yn unig (efallai fod hynny'n gyfrifol am rai o'r canlyniadau google hefyd?). Ond beth bynnag am hynny, dwi'n meddwl fod y dystiolaeth yn gryf o blaid 'Gwregys Orion' fel yr enw Cymraeg modern safonol, h.y. yr enw byddai rhywun yn disgwyl gweld mewn llyfr Cymraeg cyfoes ar seryddiaeth (ble maen nhw?). Ar ben hynny, fel mae Llywelyn a Glenn yn dweud, dyna'r enw sy'n gyfarwydd i ni fel siaradwyr Cymraeg hefyd ac mae'r lleill, er yn ddiddorol iawn, yn hollol anghyfarwydd.
Dwi am symud hyn yn ôl i Gwregys Orion felly. Ond yn gyntaf, mae Glenn wedi codi cwestiwn y sillafiad - 'Orion' neu Orïon? Pa un gawn ni? 'Orion' a geir gan y BBC a [jonesbryn ond dwi'n deall y ddadl o blaid 'Orïon' hefyd. Dydan ni ddim eisiau symud hyn nôl ac ymlaen fath â io-io! Anatiomaros (sgwrs) 23:38, 17 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Mae'n gas gen i ddefnyddio unrhyw symbol fel didolnod, acen grom ayb! Ond Wicipedia ydy hwn, a does gen i ddim hawl i farn bersonol!! Mae na ddidolnod yng Ngeiriadur Bruce (1995), felly, cytuno efo Glenn. Gyda llaw Anat - mae'r ddolen i waith Bryn Jones yn un diddorol iawn. O! Am gael amser i'w gynnwys ar wici! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:26, 18 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Symudwyd i Gwregys Orïon, fel y gwelwch. Rhaid derbyn doethineb geiriadurol Bruce Griffiths, mae'n debyg, er bod y Beeb yn anwybyddu'r didolnod.
Ia, mae gwefan Bryn Jones yn ddifyr iawn. Dwi'n cytuno, buasai'n braf cael rhestr o enwau Cymraeg - cyfoes a thraddodiadol - am wrthrychau seryddol yma rywbryd. (Ond gocheler rhag galw ffugiadau Iolo Morganwg yn enwau "traddodiadol"!) Anatiomaros (sgwrs) 00:23, 19 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Gwregys Orïon".