Sgwrs:Wiliam Mountbatten-Windsor

(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Y Tywysog William, Dug Caergrawnt)
Latest comment: 16 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Teitl


Teitl golygu

Gawn ni symud hyn i William, Tywysog Cymru? Does neb yn cyfeirio ato fel Tywysgog Gwilym yn y Gymraeg. Daffy 17:31, 27 Medi 2007 (UTC)Ateb

Cytuno ynglŷn â William yn lle Gwilym. Dwi ddim yn siwr am ei deitl. Wedi'r cyfan gan ei dad y mae'r fraint o gael ei alw yn Dywysog Cymru, ond nid yw ei fab felly. Be di ei deitl swyddogol yn Saesneg? (Nid fod llawer o ots gennyf fi yn bersonol!). Anatiomaros 18:27, 27 Medi 2007 (UTC)Ateb
O ie, mae ar y ddolen ryngwic : "Prince William of Wales." Anatiomaros 18:29, 27 Medi 2007 (UTC)Ateb
Newydd ddod ar draws hyn eto. Dyma'r canlyniadau ymchwiliad Google:
(Y) Tywysog Gwilym - 10 (ni)
Tywysog Gwilym o Gymru - 6 (ni)
Tywysog Wiliam ("o Gymru" neu beidio) - 1 (maes-e)
Tywysog William o Gymru - 7 (ni + 1 gwefan gan y llywodraeth)
Tywysog William (yn unig) - 210 (y.c. y BBC a nifer o wefannau safonol eraill)
Felly does NEB arall yn cyfeirio ato fel "Gwilym" (a does dim rhyfedd chwaith!). Dwi'n awgrymu symud hyn i Y Tywysog William. Anatiomaros 19:24, 2 Tachwedd 2007 (UTC)Ateb
Neu William Mountbatten-Windsor (gw. hefyd Sgwrs:Tywysog Harri o Gymru). Anatiomaros 19:36, 2 Tachwedd 2007 (UTC)Ateb
Byddai'n awgrymu William, Tywysog Cymru (a Henry, Tywysog Cymru) yn yr un modd â'r erthyglau ar frenhinoedd a brenhinesau. —Adam (sgwrscyfraniadau) 21:43, 9 Tachwedd 2007 (UTC)Ateb
Ia, buasai hynny'n well, ond yr unig broblem yw dydyn nhw ddim yn Dywysogion Cymru (Mae'r "o Gymru" am fod eu tad yn Dywysog Cymru). Ond yn bendant rhaid i "Gwilym" fynd. Mae nifer o'r wikpedias eraill yn defnyddio'r enw teuluol (gw. y dolenni). Anatiomaros 21:50, 9 Tachwedd 2007 (UTC)Ateb
Yn bersonol dw i dros Tywysog William (yn unig). Os ydy hynny yn ddigon da i'r BBC mae'n ddigon da i fi Dyfrig 23:14, 9 Tachwedd 2007 (UTC)Ateb
Diolch am yr ymateb. Newydd dod yn ôl at hyn heddiw ar ôl sgwennu am Bethan Jenkins a'r Cwpan newydd. "Cwpan y Tywysog William" yw'r enw (er ein cywilydd ni) nid Gwilym na William of Wales etc. Os na cheir ymateb pellach dwi am symud hyn i Y Tywysog William heddiw. Anatiomaros 17:14, 24 Tachwedd 2007 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Wiliam Mountbatten-Windsor".