Y Tywysog William, Dug Caergrawnt
Mab cyntafanedig y Tywysog Siarl a Thywysoges Diana yw William Arthur Philip Louis Mountbatten-Windsor neu'r Tywysog William, Dug Caergrawnt (ganwyd 21 Mehefin 1982). Mae'n frawd i'r Tywysog Harri.
Y Tywysog William, Dug Caergrawnt | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
William Arthur Philip Louis of Wales ![]() 21 Mehefin 1982 ![]() Ysbyty'r Santes Fair ![]() |
Bedyddiwyd |
4 Awst 1982 ![]() |
Man preswyl |
Palas Kensington, Anmer Hall ![]() |
Dinasyddiaeth |
y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth |
hedfanwr, chwaraewr polo, peilot hofrennydd, pendefig, dyngarwr ![]() |
Swydd |
Dug Caergrawnt ![]() |
Cyflogwr | |
Tad |
Y Tywysog Siarl ![]() |
Mam |
Diana ![]() |
Priod |
Catherine ![]() |
Plant |
Tywysog Siôr o Gaergrawnt, Tywysoges Charlotte o Gaergrawnt, Prince Louis of Cambridge ![]() |
Perthnasau |
Tom Parker Bowles, Laura Lopes ![]() |
Llinach |
House of Windsor ![]() |
Gwobr/au |
Urdd y Gardys, Order of the Thistle, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II ![]() |
Chwaraeon |
Cafodd ei eni yn Ysbyty Sant Mair, Llundain. Ei famaeth oedd Tiggy Legge-Bourke o Grughywel. Tom Pettifer, mab Tiggy, oedd macwy ym mhriodas William.
Priododd William ei gariad Kate Middleton yn Abaty San Steffan ar 29 Ebrill 2011 ac mae'r ddau, bellach, yn byw ar Ynys Môn. Ganwyd iddynt fab, Tywysog Siôr o Gaergrawnt, ar 22 Gorffennaf 2013.
ChwaraeonGolygu
Mae'r tywysog yn chwarae polo'n rheolaidd, ers ei ddyddiau ysgol e.e. yn Sandringham. Mae'n Arlywydd Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ers Mai 2006. Cyn hynny roedd yn adnabyddus am ei gefnogaeth gyhoeddus a brwd i dîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr a thîm rygbi cenedlaethol Lloegr. Yn Awst 2006 cyhoeddwyd y byddai'n Is-noddwr Brenhinol Undeb Rygbi Cymru o Chwefror 2007 a chyhoeddodd yr URC eu bod am weld cwpan i enillwyr y gemau prawf rhwng timau rygbi Cymru a De Affrica yn cael ei alw'n "Cwpan y Tywysog William". Mae hyn wedi ennyn ymateb beirniadol iawn yng Nghymru gan fod nifer o bobl yn gweld William fel cefnogwr Lloegr.
Rhoddodd gefnogaeth frwd ac amlwg i dîm rygbi Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Undeb y Byd 2007. Eisoes mae nifer o Gymry'n galw ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol ac i ailenwi'r tlws yn "Gwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth i'r diweddar Ray Gravell. Dadleuant fod enwi'r cwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn gwbl anaddas ac mai rheitiach fyddai ei enwi ar ôl Cymro.[1] Lansiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo.[2]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Ymgyrch 'Cwpan Grav' yn tyfu ar wefan y BBC
- ↑ Rename the Prince William Cup the Ray Gravell Cup ar wefan The Petition Site