Sgwrs:Y Waun, Sir Ddinbych

Latest comment: 10 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic "Cymuned"

"Cymuned" golygu

Dydy'r Waun ddim yn gymuned yn yr ystyr uned lywodraeth leol. Mae'n rhan o gymuned Tremeirchion, Cwm a'r Waun.

Mae'n ymddangos i mi fod y tri yn cymunedau gwahanol http://foiwiki.com/foiwiki/index.php/Community_Councils_in_Wales --Cymrodor (sgwrs) 00:00, 15 Ionawr 2014 (UTC)Ateb
Hmm, roeddwn i'n ddigon gwirion i dderbyn y wybodaeth sydd ar ein rhestr ni (Cymunedau Cymru), sy'n rhoi 'Tremeirchion, Cwm a'r Waun', ond ar 'en' mae'r 'run fath ag ar dy ddolen di (gw. en:List of communities in Wales). Dwn i ddim os oedd y wybodaeth wreiddiol ar 'en' yn anghywir (copiwyd ein rhestr ni o fan'na, dwi'n meddwl) neu os ydy'r sefyllfa wedi newid ers hynny. Ond mae'n ymddangos dy fod yn iawn a bod angen diwygio ein rhestr o gymunedau (gyda gofal, rhag ofn!). Ymddiheuraf am hynny! Anatiomaros (sgwrs) 01:24, 15 Ionawr 2014 (UTC)Ateb

Hefyd mae'n rhaid i fi'n anghytuno'n llwyr efo'r penderfyniad i symud Y Waun (Chirk) i Y Waun, Wrecsam. Mae'r Waun honno yn dref reit fawr ac adnabyddus - enwog hyd yn oed - ac felly'n cael y flaenoriaeth ar bentreflan dinod a maesdref yng Nghaerdydd. Anatiomaros (sgwrs) 23:31, 14 Ionawr 2014 (UTC)Ateb

Yw'r ffaith bod y ddau yn gymuned yn newid hyn? --Cymrodor (sgwrs) 00:00, 15 Ionawr 2014 (UTC)Ateb
Dim o gwbl, yn fy marn i. Mater o amlygrwydd neu bwysigrwydd ydyw. Mae tref Y Waun (Chirk) gyda'i hanes hir a'i chastell enwog yn llawer mwy o ran "amlygrwydd" na'r lleill gyda'i gilydd. Ond efallai bydd eraill yn anghytuno. Beth am ofyn am farn pobl yn y Caffi gan gofyn iddyn nhw ateb yma? Anatiomaros (sgwrs) 01:24, 15 Ionawr 2014 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Y Waun, Sir Ddinbych".