Sgwrs:Y Waun, Wrecsam

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Dwy erthygl

Newidiadau bach golygu

Henffych. Wedi neud cwpl o newiadau bach yma. Dileuwyd y peth am y cam-dreiglo ar arwydd y camlas - dw i ddim yn gweld bod hynny yn haeddu ei grybwyll ar brif-dudalen Y Waun, er mor warthus yw e. Hefyd, nes i ddileu'r "trwy balchder" a ddaeth ar ôl "Fe adeiladwyd y bont rheilffordd yn uwch na'r draphont" - os yw hynny yn wir mae angen cyfeirnod, siwrli.

Newydd sylwi bod dim sôn am y castell o gwbl. Wna i rywbeth am hyn yn y man.

Nic Dafis 16:08, 6 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

It was intentionally made higher because of rivalry between railway and waterways. It is mentioned on a sign for visitors there.
O, mae e ar arwydd. Mae hynny'n iawn 'te ;-) Nic Dafis 23:55, 14 Mawrth 2008 (UTC)Ateb
Newidiadau call. Dwi'n sbiad ymlaen at yr erthygl am Gastell y Waun! Anatiomaros 16:30, 6 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Dwy erthygl golygu

Dw i'n meddwl i rhywun bwyntio hyn allan yn barod, ond mae Y Waun a'r ethygl hon Y Waun, Wrecsam yn bodoli gyda'r un cynnys. Pa ffordd gytunwyd i ailgyfeirio? --Rhyswynne (sgwrs) 09:08, 11 Chwefror 2014 (UTC)Ateb

Mae'r Waun yn enfawr, yn fwy na'r gweddill, ac mae na reol sy'n caniatau i'r enw, felly, sefyll heb gollnod a lleoliad; dw i wedi ail gyfeirio 'Y Waun, Wrecsam' i 'Y Waun'. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:25, 22 Mehefin 2014 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Y Waun, Wrecsam".