Sgwrs:Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009

Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Iddew ym mhwnc ffynhonnell

Cyfiawnhau?

golygu

Where it says:

Cyfiawnhaodd Israel yr ymosodiad drwy ddweud fod Hamas wedi tanio sawl roced ar ei phobol hi, o'r Llain Gaza.

Correct me if "cyfiawnhau" in Welsh doesn't have the same nuances as "justify" does in English, but I hear an opinion being expressed here that Israel are in the wrong and are making excuses. (I happen to agree with this, but...) Would something like the following be more neutral?

Y rheswm am yr ymosodiad, yn ôl Israel, oedd bod Hamas wedi tanio (ayyb...)

Alan 16:23, 30 Rhagfyr 2008 (UTC)Ateb

Roeddwn i newydd sgwennu hyn ond roeddet ti wedi symud yr erthygl cyn imi fedru postio'r neges:
Dwi'n meddwl fod dy gynnig di yn darllen yn well, Alan. Anodd bod yn niwtral ar bwnc fel hyn, ond mae'n ddyletswydd arnom ni. Mae angen symud hyn i rywbeth tebyg i "Ymgyrch fomio ar Lain Gaza, Rhagfyr 2008" hefyd, ond wedyn bydd rhaid symud y dudalen eto o fewn ychydig o ddyddiau i - be? "Ymgyrch fomio ar Lain Gaza, Rhagfyr 2008 - Ionawr 2009" / "Rhyfel Israel-Palesteinia 2008-2009" (Rhan 1)?!. Gwell aros tan y Flwyddyn Newydd cyn ei symud, efallai, i osgoi ailgyfeiriadau niferus? Anatiomaros 16:32, 30 Rhagfyr 2008 (UTC)Ateb
Diolch am dy ateb i fy nghwestiwn gwreiddiol. Am deitl yr erthygl (a sori am fy mod wedi ei symud wrth i ti geisio postio dy ateb), dewisais i fo achos bod gyda'r erthygl Saesneg y teitl en:December 2008 Gaza Strip airstrikes, ond dwi'n cytuno efo dy sylw am Ionawr. Dwn i ddim pa deitl sy'n orau, ond yn y Flwyddyn Newydd gawn ni edrych ar deitl yr erthygl Saesneg i gael syniadau efallai. Alan 21:02, 30 Rhagfyr 2008 (UTC)Ateb
Ia, aros yw'r peth gorau am rwan. Mae'r teitl presennol yn iawn am rwan, ond dwi'n ofni'n wir y bydd rhaid newid y teitl i Ryfel Gaza a De Libanus 2008-2009 y ffordd mae pethau'n mynd ar hyn o bryd. "Tymor Heddwch ac Ewyllys Da"? Anatiomaros 21:32, 30 Rhagfyr 2008 (UTC)Ateb

Cytuno â'r ddau ohonoch, ysywaeth! Ia wir Anatiomaros: tymor heddwch! Llywelyn2000 22:54, 30 Rhagfyr 2008 (UTC)Ateb

Wel, newidiwyd yr enw Saesneg i: 2008–2009 Israel–Gaza conflict
Beth am wella hyn, drwy fod yn fwy cywir: 2008-2009 Ymosodiad Israel ar Lain Gaza
Efallai y byddai erthygl arall, gwahanol ar rocedi Hamaz yn cydbwyso hyn (a'r niferoedd o Israeliaid sydd wedi marw) Llywelyn2000 23:06, 3 Ionawr 2009 (UTC)Ateb


Cyfieithiad o'r Arabeg i'r Saesneg.Cymerwch gip ar Wici (Arabeg) - wedi'i gyieithu gan beiriant. Efallai y dylem ninnau fod mor wrthrychol! O'r hyn dwi'n ei weld, mae'n llawer nes at y gwir. Llywelyn2000 00:29, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Dydwi ddim wedi cyfranu yma heddiw am fy mod yn gwylio lluniau byw o Ddinas Gaza ar y we - Press TV, yr unig rai a camerau a newyddiadurwyr yn Gaza ei hun, reit yng nghanol y ddinas - ers i'r Israeliaid fynd i mewn tua 1800 neithiwr (nos Sadwrn). Wrth imi sgwennu hyn mae'r bomio ar ganol y ddinas yn gwaethygu gyda bomiau a rocedi yn taro bob eiliad bron, yn llythrennol, yn cynnwys bomiau clwstwr anferth (yn erbyn cyfraith ryngwladol, hyd yn oed yn erbyn milwyr, heb sôn am ddinasyddion cyffredin!). Faint o bobl diniwed sydd wedi'u lladd dros yr oriau diwethaf? Cannoedd lawer, mae'n debyg. Mae'n ymosodiad gwbl ddidrugaredd. "Cyflafan Gaza" sydd gan y wici Arabeg, a dyna'r unig air amdani. Ar y lleia dwi'n meddwl mai "Ymosodiad Israel ar Lain Gaza Rhagfyr 2008 - 2009" sy'n gywir yn lle "Gwrthdaro... etc". A Bush yn cefnogi Israel, Obama yn deud dim, y Cenhedloedd Unedig yn golchi eu dwylo (ond fedran' nhw neud dim heb ganiatad UDA beth bynnag). Dim o'r gwirionedd am be sy'n digwydd yn cael ei ddangos ar y BBC, CNN ayyb. "Rhyfel agored ar drigolion Gaza" yw'r disgrifiad yn y byd Arabaidd a Mwslemaidd. Lladd didostur, hollol ffiaidd. Efallai bydd fy ngwaed wedi oeri dipyn fory, achos dwi ddim yn medru cyfrannu i'r erthygl yn "niwtral" rwan. Nos da, Anatiomaros 02:04, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Mewn gwaed oer, Anatiomaros, dwi'n cytuno â'th gynnig a hyd yn oed yn cynnig gwelliant: Cyflafan Israel yn erbyn y Palesteiniaid 2008-09. Llywelyn2000 12:15, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Hollol, Llywelyn. Ond oes gan rywun arall syniadau? Mae angen newid hyn beth bynnag, oherwydd y dyddiad. Yn fy marn i a llawer o bobl eraill cyflafan yn erbyn sifiliaid sy'n digwydd, ond mai dewis gair o'r fath yn golygu mynegi barn (neu'n agored i gael ei weld fel 'na gan rai). Beth am 'Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008-2009' am rwan? Mae'n gryfach efallai ac eto yn gywir, dwi'n credu. Mae hyn yn benderfyniad anodd iawn, a dwi ddim isio newid y teitl heb cael barn pobl eraill hefyd (pe bai hyn yn erthygl mewn papur newydd buaswn yn defnyddio teitl rhywbeth tebyg i gynnig Llywelyn). Anatiomaros 17:26, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Naill ai 'Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008-09' neu 'Ymosodiad Israel ar Balesteiniaid Llain Gaza 2008-09'. Piti nad oes neb arall yn ymateb. Yn absenoildeb unrhyw farn: dewis di, gyfaill. Doed dim rheidrwydd i ni gyfieithu'n slafaidd o'r Wiki Saesneg. Mae bod yn wrthrychol, yn onest yn bwysicach. Llywelyn2000 19:54, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
'Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008—presennol'? Dwi am symud o o fewn yr hanner awr nesaf os nad oes wrthwynebiad. Cytuno does dim rhaid dilyn "en", wrth gwrs. Mae lle i ddadlau fod "cyflafan" yn mynegi barn ond yn sicr ymosodiad ydy ymosodiad; all neb ddadlau yn erbyn hynny (ar wahân i George Bush a'i gyfeillion Seionaidd). Anatiomaros 20:00, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Mae "Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008—presennol" yn swnio'n iawn i mi. Rhion 20:03, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Cefnogi "Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008—presennol" hefyd. —Adam (sgwrscyfraniadau) 20:14, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Diolch. Dwi wedi symud o, ond tybed ydy'r "dash" yn edrych yn rhy fawr? Wnes i ddefnyddio " — " yn lle " - " (mae'n edrych yn fwy o lawer ar ben y dudalen nag mewn testun, am ryw reswm) ond dwi wedi ailgyfeirio Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008-presennol Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008—presennol. Ond ta waeth, dim byd o bwys. Bydd rhaid newid o eto rywbryd. Anatiomaros 20:50, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Lluniau o'r erchyllterau yn wedi diflannu o Wiki Commons

golygu

Mae llun y crater enfawr yng nghanol tai Palesteiniaid roddais i yn yr erthygl ddoe wedi diflannu o Wiki Commons, ynghyd a bron yr holl luniau eraill o'r gyflafan (tua 30 ohonynt). Sut fedra i ddarganfod pwy sy'n sensro? Ai unigolion ynteu swyddogion Wiki? Yn wallgo .... Llywelyn2000 19:38, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Dylai fod trafodaeth rywle ar Gomin. Mae'n naill ai'n sensoriaeth neu broblem hawlfraint, ond mae nhw wedi gweithredu'n hynod o gyflym. Anatiomaros 19:42, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
"Copy violation" yn ôl hyn. Anatiomaros 19:47, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Mmm... Unigolion, felly, nid swyddogion Wiki. Diolch byth. Llywelyn2000 22:24, 4 Ionawr 2009 (UTC)Ateb


Fel mae pobl yn newid!!! Er gwell, y tro yma. Mae tua 9 o luniau erchyllterau a achoswyd gan yr Israeliaid wedi eu gosod yn yr erthgl ar Wiki, bellach! Y tristwch ydy ei bod hi wedi cymryd bron i fis (a thros 1000 o farwolaethau pobol Llain Gaza) cyn i hyn fod yn dderbyniol . Roedd nifer o luniau gennym ni o'r dechrau, diolch i'r enaid fawr Anatiomaros. Daw dydd. Daw dydd. Llywelyn2000 00:21, 18 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Dwi wedi ychwanegu rhyw hanner dwsin o'r lluniau gorau sydd ar Gomin. Mae hyn yn welliant, ond piti does 'na ddim lluniau o un o'r ysbytai a dioddefwyr. Mae 'na un llun o'r fath ar y wici Arabeg ond mae'n wirioneddol erchyll - plentyn bach wedi'i losgi'n ofnadwy. Anatiomaros 00:00, 20 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Niferoedd a laddwyd ac a anafwyd

golygu

Ymddengys fod anghysondeb yn y niferoedd. Llywelyn, rwyt ti wedi dadwneud fy nolygiad i ddangos "tua 710" ar 7 Ionawr, ond dyna'r ffigwr mewn sawl ffynhonnell yn cynnwys hyn heno, gan Agence France-Presse, un o'r asiantaethau newyddion mwyaf parchus yn y byd. Be 'dy'r ffynhonnell? Dwi'n gwybod dydy'r ffigyrau ddim yn adio i fyny, ond does dim help am hynny; y cyfanswm sy'n cyfrif. Anatiomaros 00:02, 8 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Henffych gyfaill! O'r Wiki Ffrangeg ([1]) y cefais i'r ffigurau - roeddent yn cyd fynd a'th ddiweddariad di, ar wahan i un neu ddau, fel y gweli. Hwnnw ddefnyddiais i pan roddais y tabl yn wreiddiol, ond wna i ddim dadlau a thi! Mae cymaint o niwl yn y peth, beth bynnag! Llywelyn2000 00:17, 8 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Diolch, Llywelyn, 'r hen gyfaill. Rwyt ti'n iawn, wrth gwrs, am y "niwl". Yn bersonol mae'n well gen i ymddiried yn AFP ac Al Jazeera na'r BBC ("tua 640 neu ragor" mewn erthygl ar eu gwefan heddiw - yn groes i'r ffigwr gan bawb arall bron!). A Duw a wyr faint sydd wedi'u claddu dan y rwbel neu wedi eu malurio'n friwgig. Cyflafan... Anatiomaros 00:25, 8 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Diolch am dacluso Al-Aqsa TV hefyd: dydy hyn mond ar gael ar ein wici ni! Anatiomaros 00:30, 8 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Bril! Llywelyn2000 00:43, 8 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Shwmae! Bydden i'n dweud bod anghysondeb o ran y nifer o bobl yng Nghymru a oedd yn protestio hefyd. Yn Abertawe, dros 100 o bobl oedd yno yn ol yr Evening Post (ac yn ol eu gwefan) er pan yrrais i adre' heibio'r brotest bydden i wedi dweud bod tipyn llai na 100 yno. (Mae'r Evening Post yn dueddol o or-ddweud yn fy marn i!) Un cwestiwn (a dw i ddim yn trial bod yn ddadleuol, onest!) ond a yw'r erthygl wir yn ddi-duedd? Dw i ddim yn amau fod y ffeithiau'n gywir ond mae'n ymddangos i mi fod rhyw slant gwrth-Israelaidd arno... (ac o ddarllen y sylwadau ar y dudalen sgwrs mae'n amlwg beth yw'r farn gyffredinol am y sefyllfa). Oni ddylai mwy o ddadleuon Israel a'r hyn maent yn dweud i gyfiawnhau eu gweithredodd gael eu cynnwys? Os y'ch chi'n anghytuno, iawn... jest eisiau codi'r cwestiwn o'n i! Rhodri77 20:22, 11 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Dwi'n trio fy ngorau, ond mae'n anodd. Croeso i ti a phawb arall gyfrannu: doeddwn i ddim wedi bwriadu gwneud hyn i gyd ar ben fy hun. Anatiomaros 00:31, 12 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
ON Sori, dydy hynny ddim yn hollol wir wrth gwrs, mae pobl eraill wedi cyfrannu ond rhywsut mae'r baich wedi syrthio ar fy sgwyddau i. Am y ffeithiau, dwi'n siecio popeth dwywaith cyn ei ychwanegu, hyd yn oed os na fedraf nodi pob ffynhonnell unigol (neu fasa angen sawl nodyn cyfeiriad ar ddiwedd pob brawddeg). Anatiomaros 00:35, 12 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Mae'r niferoedd a ddyfynir yn y tabl yn dod o swyddfeydd y BBC, fel y gweli uchod. Trafodwyd y peth rhyngof ag Anatiomaros:

::O'r Wiki Ffrangeg ([2]) y cefais i'r ffigurau - roeddent yn cyd fynd a'th ddiweddariad di, ar wahan i un neu ddau, fel y gweli.

Pan wirais nhw gynna, roedd anghysondeb, roedd y ffigurau bump person yn is na rhai'r BBC yn ystod y diwrnod neu ddau diwethaf. Ie, is, nid uwch. Diolch am gyfrannu. Llywelyn2000 05:25, 12 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Diweddaru'r Teitl

golygu

Dwi'n credu ei bod yn bryd i ni ddiweddaru'r teitl, gan fod yr ymosodiad yma yn ymddangos ei fod hefyd yn ddiwedd ar yr ymosodiad. Hyd yn oed pe bai'r brydro'n ailddechrau, credaf mai enw arall a roddir arno, bellach: dyna mae'r rhan fwyaf o ieithoedd wedi ei wneud ta beth. Ga i awgrymu: Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008-09 Llywelyn2000 19:09, 10 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Gan fod neb wedi gwrthwynebu yna mi wnaf hynny. Llywelyn2000 23:42, 16 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

tuedd

golygu

dwi'n credu bod yr erthygl yma'n dangos tuedd gan nad oes son am y bomiau dyddiol gan Hamas ar Israel. Jjabertawe 17:39, 2 Medi 2009 (UTC)Ateb

Yn yr adran 'Cefndir', mae'n nodi'r canlynol "Mewn ymateb dechreuodd byddin Hamas a grwpiau eraill saethu rocedi bychain dros y ffin a bu "brwydr talu pwythau" ysbeidiol.". Yn dilyn hyn mae yna restr ar ffurff bullet points sydd hefyd yn nodi bod Hamas wedi tanio rocedi.--Ben Bore 20:54, 2 Medi 2009 (UTC)Ateb

Newid y teitl

golygu

Chwi welwch fod y teitl saesneg etc wedi newid bellach i Gaza War sydd tipyn yn symlach. Ond rhyfel unochrog ydoedd hi: dim ond Israel oedd yn ymosod, efallai y byddai cyflafan Gaza yn well teitl, bellach? Llywelyn2000 21:31, 6 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Hmm, mae'n symlach yn wir, ond o edrych ar y dolenni rhyngwici dwi'n gweld fod y teitl yn amrywio o iaith i iaith hefyd. Yn ogystal, fel ti'n deud, "rhyfel" hynod unochrog oedd o ac mae'r gair "ymosodiad" yn ddisgrifiad addasach - yn fy marn i, o leia. Yn fy marn i "cyflafan" oedd o hefyd, ond mae hynny'n derm sy'n mynegi barn ac felly i'w osgoi (oni bai fod pawb yn ei alw felly...). Mae'r teitl yn rhy hir i'w gofio'n rhwydd er mwyn creu dolen, dwi'n cyfaddef, ond beth am greu'r ailgyfeiriad Rhyfel Gaza er mwyn datrys hynny? Anatiomaros 22:20, 6 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

ffynhonnell

golygu

Yn bersonol mae'n well gen i ymddiried yn AFP ac Al Jazeera na'r BBC

Dwi'm yn gywbod lle i ddechrau a hyn? Wyt ti wir yn credu hyn? Dyma'r meddylfryd sosialaidd sy'n adeiladu'r Wikipedia ma? Does dim syndod bod hi fel mae hi. Iddew 01:06, 17 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009".