Sgwrs:Yr Ynys Las
Sylw diweddaraf: 16 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Enw priodol?
Enw priodol?
golyguDw i ddim yn credu y dylid defnyddio Y Lasynys am Gronland. Nid yw y Lasynys ond cyfieithiad o'r enw Saesneg ar yr ynys.
Gronland ddefnyddir mewn atlasau Cymraeg, e.e. Yr Atlas Cymraeg Newydd a gyhoeddir gan CBAC. Rhyw ddydd fe fydd y safle yma yn werthfawr i ysgolion gobeithio a byddai yn arfer da i ddefnyddio geirfa cydnabyddedig y byd addysg. Fel arfer mae academyddion wedi bod yn trafod termau fel hyn yn fanwl iawn cyn derbyn fersiwn cydnabyddedig. Dyfrig 15:57, 17 Ebrill 2004 (UTC))
- Yr Ynys Las yw'r enw Cymraeg am y tir. Dydi o ddim yn gyfieithiad o'r Saesneg. "(Y) Tir Glas" yw ystyr yr enw Daneg ac os edrychir ar y dolenni rhyngwici fe welir bod bron pob un o'r wicis eraill yn defnyddio'r enw ar yr ynys yn eu hiaith hwy. Pam fod rhaid i ni fod yn wahanol? Does neb yn cyfeirio at y lle fel Grønland yn y Gymraeg, siawns gen i. Anatiomaros 18:17, 15 Tachwedd 2007 (UTC)
- Cefnogi symud i Yr Ynys Las, yn ôl y rhesymau a nodir gan Anatiomaros. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:45, 9 Medi 2008 (UTC)
- Roeddwn i wedi anghofio'n llwyr am hyn, ond heb newid fy meddwl. Efallai fod llawer o Gymry yn dweud "Greenland" yn hytrach nac "Yr Ynys Las", gwaetha'r modd, ond does neb bron yn defnyddio'r ffurf Ddaneg. Anatiomaros 18:35, 9 Medi 2008 (UTC)
- Wedi symud i Yr Ynys Las. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:57, 10 Medi 2008 (UTC)
- Ardderchog. Be wnawn ni efo'r Føroyar? Enghraifft arall lle rydym ni'n sefyll allan fel yr unig rai i ddefnyddio'r enw brodorol. Anatiomaros 18:03, 10 Medi 2008 (UTC)