Sgwrs:Ysgol Syr Hugh Owen
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Oes angen cynnwys popeth? golygu
Mae nifer o'r erthyglau am ysgolion yn rhai gwan a braidd yn rhyfedd yn fy marn i. Yn yr un yma, oes angen nodi pob pwnc sy'n cael ei ddysgu yma - tydy pob ysgol yng Nghymru ddim yn dysgu'r rhain. Dw i am newid trefn y ffeithiau yn ôl beth dw i'n meddwl sydd o fwyaf o adrwyddocad, ac efallai dof yn ôl i ddileu enwau'r holl bynciau.
Hefyd, mae nifer o erthyglau ysgolion yn cynnwys enw'r prifathrawon (ac yn rhai achosion, nifer o'r staff gan gynnwys y gogyddes). Siawns na fyddai'n well rhoi dolen at dudalen yr ysgol ar wefan yr Awdurdod Addysg Lleol ble ceir y wybodaeth?--Ben Bore 20:37, 2 Chwefror 2009 (UTC)
Yr erthygl Saesneg golygu
Arno, mae'n dweud The school was opened in 1894 and was given its name because it was the first school founded on Syr Hugh's Welsh Middle-class education policies.
Dw i'n meddwl mai camgymeriad ydy hyn, nid gosodiad gwrth Gymreig (ch'mod, mae pob siardwr Cymraeg yn ddosbarth Canol), ond dwi ddim yn siwr beth i'w newid i.--Ben Bore 20:49, 2 Chwefror 2009 (UTC)
- Beth am hyn? (Tipyn bach yn boring efallai.) Alan 21:41, 2 Chwefror 2009 (UTC)