Sgwrs Categori:Celf

Latest comment: 5 o flynyddoedd yn ôl by Adda'r Yw in topic Cysoni'r drefn

Celf neu Celfyddyd? golygu

Pa ffurf sy well ei defnyddio? Yn ôl GPC, talfyriad gan Iolo Morganwg yw "celf" gan iddo dybio taw terfyniad ansoddeiriol oedd yr "-ydd". Mae Geiriadur Bruce yn honni taw ffurf fictitious yw "celf", in occasional use (mae'n air cyffredin iawn, iawn yn ôl fy mhrofiad i!). Barnau gan eraill? Hefyd, a yw'r gwahaniaeth rhwng "celf(yddyd)" ac "y celfyddydau" yn bodoli yn Gymraeg yn yr un modd ag yn Saesneg (art a the arts)? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 18:20, 7 Hydref 2014 (UTC)Ateb

Dwi'n synnu bod geiriadur Bruce yn dweud ei fod yn cael ei ddefnyddio "yn achlysurol" er ei fod yn iawn mai gair a fachodd Iolo ydyw, tasa hynny o bwys i'r ddadl (gair gwneud "fictitious" gan un o ffrindiau Iolo - yr hynod William Owen Pughe - yw 'cylchgrawn' a sawl air cyfarwydd arall). Mae angen gwahaniaethu rhwng art a'r Arts yn gyffredinol a dwi ddim yn gweld sut mai gwneud hynny heb ei galw yn Gelf - fel arall ceir dryswch a dyna pam mae nifer o bobl yn defnyddio'r gair 'celf' am art, yn gam neu'n gymwys. Anatiomaros (sgwrs) 01:34, 8 Hydref 2014 (UTC)Ateb

Cysoni'r drefn golygu

Rydw i wedi symud popeth am y celfyddydau gweledol i'r categorïau sy'n dwyn yr enw "Celf", ac y rheiny'n is-gategorïau i'r categorïau am "Y celfyddydau". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:48, 28 Awst 2018 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Celf".