HIV/AIDS golygu

S'mai Mart. Fi dynnodd y manylion am AIDS or erthygl am HIV. Dw i'n meddwl dylid cael erthygl ar wahan am y peth. Mae copi o beth ysgrifeniast yn nhudalen sgwrs erthygl HIV. Mater hawdd fyddai i mi gopio a phastio hwn i erthygl newydd, ond dw i ddim yn gwybod digon am y pwnc a ddim eisiau gwenud camgymeriad - er wedi dweud hynny mae cyfranwyr eraill digon gwybodus yma all ei newid wedyn.

Sori os oeddwn yn ymddangos yn fyrbwyll, ond ceisio cadw fformat y Wicipedia yn gyson ydw i. Synnais nad oedd erthygl am HIV nac AIDS ar y Wicipedia Cymraeg, mae'n bwysig iawn. Croeso i'r Wicipedia gyda llaw, ac os wyt yn anhytuno gyda unrhyw newidiadau mae defnyddiwr yn wneud, paid bod ofn eu dadwneud, ond os yw'r newid sylweddol, noda dy reswm unai ar dudalen sgwrs neu yn y blwch crynodeb.

Er mwyn i bobl ddod o hyd i erthyglau'n haws, mae modd eu catagoreiddio a rhoi dolenni o un erthygl i'r llall. Fe roddais i'r erthgl yma mewn categori Feirwsau (nad oedd yn bodoli gynt) a rhoi doen ar erthyglau am feirws a chelloedd, a hefyd dolen rhyngwici at yr erthygl mewn iieithoedd eraill. Paid poeni'n ormodol am hyn gan bod defnyddwyr eraill ffyslyd fel fi'n mynd o gwmpas yn gosod rhain fel arfer, ond mae'n syniad ymhen amser dod i arfer gwnud hyn hefyd.

Cofia lofnodi unrhyw neges gyda (drwy ddefnyddio'r botwm   uwchben y blwch golygu) er mwyn i bobl wybod gan pwy mae'r neges.

Hwyl am y tro. --Ben Bore 10:30, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb

O ddarllen y wybodaeth a dynnais o'r erthygl unwaith eto, ac yn fwy trwylwyr tro hwn (dylwn wedi gwneyd hyn yn gyntaf), dw i'n sylwi bod trwch helaeth yn ymwneud a HIV, ac felly dw i wedi ei osod mewn eto, a'i dwtio ychydig. Hefyd mae erthygl am AIDS yn bodoli rwan ac angen ei ehangu.--Ben Bore 07:53, 25 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb