AIDS
Mae Syndrom Diffyg Imiwnolegol Caffaeledig (Saesneg: Acquired Immune Deficiency Syndrome, er fe'i adnabyddir yn amlach gan y talfyriad AIDS), yn ddiffiniad o arwyddion, symptomau, heintiau, a chanserau sydd yn gysylltiedig â'r diffygiad yn y system imiwnedd sydd yn deillio o fod yn heintiedig â HIV. Mae'r cyflwr hwn yn lleihau effeithiolrwydd y system imiwnedd gan adael unigolyn yn agored i heintiau a thyfiannau manteisgar. Caiff HIV ei drosglwyddo drwy gyswllt uniongyrchol rhwng pilen ludiog neu lif gwaed â hylif corfforol sy'n cynnwys HIV, er enghraifft gwaed, semen, hylif gweiniol, hylif cyn-semen a llaeth y fron. Gellir trosglwyddo'r firws drwy ryw rhefrol, gweiniol neu eneuol, trallwysiad gwaed, nodwyddau hypodermig wedi'u heintio, o'r fam i'r baban yn ystod y beichiogrwydd, genedigaeth neu drwy fwydo o'r fron.
Delwedd:Red Ribbon.svg, Roja AIDSê ku.png | |
Enghraifft o'r canlynol | endemic disease, syndrom, pandemig, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | feirws imiwnoddiffygiant dynol, acquired immunodeficiency, haint a drosglwyddir yn rhywiol, clefyd |
Lladdwyd | 40,400,000 |
Symptomau | Brech, night sweats, myalgia, dolur gwddf, blinder meddwl, enlargement of lymph nodes, wlser yn y ceg, oerni |
Achos | Hiv |
Dyddiad darganfod | 1959 |
Dechreuwyd | 1959 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bellach mae AIDS yn fyd-eang. Yn 2007, amcangyfrifwyd fod 33.2 miliwn o bobl ledled y byd yn byw gyda'r afiechyd a bod 2.1 miliwn wedi eu lladd gan y firws, gan gynnwys 330,000 o blant. Yn Affrica Îs-Sahara y bu dros dri chwarter o'r marwolaethau hyn, gan amharu ar dyfiant economaidd a dinistrio cyfalaf dynol. Cred y mwyafrif o ymchwilwyr y dechreuodd HIV yn Affrica Îs-Sahara yn ystod yr 20g. Cafodd AIDS ei gydnabod gan Ganolfannau Rheolaeth ac Atal Afiechydon yr Unol Daleithiau ym 1981 a chanfuwyd ei achos, HIV, gan wyddonwyr Americanaidd a Ffrengig ar ddechrau'r 1980au.
Er bod triniaeth am AIDS a HIV yn medru arafu datblygiad yr afiechyd, ar hyn o bryd nid oes iachâd neu frechlyn i'r afiechyd. Mae triniaethau gwrthiant yn lleihau'r marwolaethau o heintiadau HIV, ond mae'r cyffuriau hyn yn ddrud ac nid ydynt ar gael yn hawdd ymhob gwlad. Am fod anawsterau wrth drin heintiadau HIV, atal pobl rhag cael eu heintio yn y lle cyntaf yw'r nod wrth reoli'r epidemig AIDS, gyda sefydliadau iechyd yn hyrwyddo rhyw mwy diogel a chyfnewidfeydd nodwyddau er mwyn ceisio arafu'r firws.
Symptomau
golyguGan amlaf, mae symptomau AIDS yn deillio o gyflyrau meddygol na sydd yn datblygu mewn unigolion sydd â system imiwnedd iach. Heintiau yw'r mwyafrif o'r cyflyrau hyn a achosir gan facteria, heintiau, ffyngau a pharasitiaid sydd fel arfer yn cael eu rheoli gan yr elfennau o'r system imiwnedd mae'r firws HIV yn difrodi. Mae heintiadau manteisgar[1] yn gyffredin ymhlith pobl sydd ag AIDS. Mae HIV yn effeithio ar bron pob system organau. Mae gan bobl â AIDS fwy o siawns o ddatblygu cancrau gwahanol megis sarcoma Kaposi, cancr serfigol a chancrau'r system imiwnedd a adnabyddir fel lymphomas[2] Yn ogystal â hyn, bydd pobl sydd ag AIDS yn cael symptomau systemig megis tymheredd uchel, chwysu (yn y nos yn enwedig), chwarennau chwyddedig, annwyd, gwendid a cholli pwysau [3] Mae'r heintiau manteisgar a ddatblyga cleifion sydd ag AIDS yn dibynnu i raddau ar ba mor gyffredin yw'r heintiadau hynny yn yr ardal lle mae'r claf yn byw.
Heintiadau ysgyfeiniol
golyguMae niwmonia niwcystig (a arferai gael ei alw'n Saesneg yn Pneumocystis carinii pneumonia, ac sy'n parhau i gael ei dalfyrru'n PCP, ond sydd bellach yn cyfeirio at niwmonia niwcystig) yn gymharol anghyffredin ymysg pobl sydd â system imiwnedd iach ond mae'n gyffredin ymhlith pobl sydd â HIV. Caiff ei achosi gan Pneumocystis jirovecii. Arferai achosi marwolaeth yn aml iawn. Mewn gwledydd datblygol, mae'n parhau i fod yn un o'r symptomau cyntaf o AIDS ymysg pobl na sydd wedi cael eu profi am HIV, er yn gyffredinol nid yw'n digwydd oni bai bod y cyfrif CD4 yn llai na 200 o gelloedd ymhob µL o waed.
Mae diciâu ymhlith yr amryw heintiau sy'n gysylltiedig â am ei fod yn medru cael ei drosglwyddo o bobl drwy'r system resbiradu. Gellir ei drin yn hawdd gyda chyffuriau unwaith y caiff ei ddarganfod a gall ymddangos ar ddechrau'r afiechyd HIV. Fodd bynnag, gall gwrthiant aml-gyffur fod yn broblem ddifrifol.
Er bod y nifer o achosion wedi lleihau yn sgil triniaeth ac arferion meddygol uniongyrchol mewn gwledydd gorllewinol, nid yw hyn wir mewn gwledydd datblygol lle mae HIV fwyaf cyffredin. Gan amlaf mae'r symptomau yn effeithio ar fêr yr esgyrn, yr esgyrn, yr afu, nodau lymff a'r system nerfol ganolog.
Heintiadau'r llwybrau traul
golyguYmffachychiad o leinin ar ran waelod yr oesoffagws (y llwnc neu'r tiwb llyncu a arweinia i'r stumog) a ydy llid yr oesoffagws. Gyda phobl sydd â HIV, mae hyn o ganlyniad i heintiadau ffwngaidd (candidiasis) neu firaol (herpes simplex-1 neu cytomegalovirus). Mewn ambell i achos prin, gellir ei achosi gan micro-facteria.[4]
Gallai fod gan ddolur rhydd cronig anesboniadwy o ganlyniad i heintiad HIV amryw o achosion posib, gan gynnwys bacteria cyffredin (Salmonella, Shigella, Listeria neu Campylobacter) a heintiadau parasitig; rhai o'r heintiadau manteisgar anghyffredin yw cryptosporidiosis, microsporidiosis, Mycobacterium avium complex (MAC) a firysau fel astrovirus, adenovirus, rotavirus a cytomegalovirus.
Mewn rhai achosion, gall dolur rhydd fod yn sgil-effaith i'r amryw gyffuriau a ddefnyddir i drin HIV, neu efallai ei fod wedi dod gyda'r haint HIV, yn enwedig yn ddechreuadau'r heintiad. Gall hefyd fod yn sgil-effaith i'r gwrthfiotigau a ddefnyddir i drin achosion bacteriol dolur rhydd (yn gyffredin ar gyfer Clostridium difficile). Pan fo HIV wedi datblygu ymhellach, credir fod dolur rhydd yn adlewyrchu'r newidiadau yn y modd y mae tract y llwybrau traul yn amsugno mwynau, ac mae'n bosib fod hyn yn elfen bwysig i'r corff deneuo i ddim o ganlyniad i HIV.[5]
Cysylltiadau niwrolegol a seiciatrig
golyguGall heintiad HIV arwain at amrywiaeth o ganlyniadau niwroseiciatreg, naill ai drwy heintiad o'r system nerfol gwan gan organebau neu o ganlyniad uniongyrchol i'r salwch ei hun.
Mae tocsoplasmosis yn afiechyd a achosir gan barasit o'r enw Tocsoplasma gondii; gan amlaf, mae'n heintio'r ymennydd, gan achosi llid yr ymennydd tocsoplasmig, ond gall heintio ac achosi afiechydon yn y llygaid a'r ysgyfaint hefyd.[6] Mae llid yr ymennydd cryptococol yn heintiad o'r freithell (y bilen sy'n gorchuddio'r ymennydd a nerf yr asgwrn cefn gan y ffwng Cryptococos neoformans. Gall achosi tymheredd uchel; pen tost, blinder, cyfog a chwydu. Gall cleifion ddatblygu trawiadau a phenbleth; heb ei drin, gall fod yn farwol.
Mae lewcoenseffalopathig amlffocal datblygol yn afiechyd difyelinol, lle mae'r bilen myelin sy'n gorchuddio acsonau nerfau'r celloedd yn cael ei ddinistrio'n raddol, gan effeithio ar drosglwyddiad cynhyrfiad nerfol. Caiff ei achosi gan y firws JC sydd i'w ddarganfod mewn 70% o'r boblogaeth yn ei ffurf guddiedig, ond sydd yn achosi afiechyd yn unig pan fo system imiwnedd y corff wedi'i wanhau'n ddifrifol, fel y gwelir mewn achosion o bobl ag AIDS. Mae'n datblygu'n gyflym, gan arwain at farwolaeth o fewn misoedd o ddiagnosis gan amlaf.[7]
Mae cymhlyg dementia AIDS yn enseffalopathi metabolig a ddaw yn sgil heintiad HIV, a chaiff ei yrru gan actifiant imiwnedd ymennydd sydd wedi'i heintio â macroffagau a microglia. Caiff y celloedd hyn eu heintio â HIV gan ryddhau niwro-docsinau o darddiadau firaol ac wrth y cynhaliwr. Gwelir namau niwrolegol penodol ar ffurf anawsterau gwybyddol, ymddygiadol a modurol sy'n digwydd ar ôl blynyddoedd o heintiad HIV a chânt eu cysylltu â lefel celloedd CD4+ T isel a llwyth firaol plasma uchel.
Gwelir cyffredinolrwydd o 10-20% mewn gwledydd Gorllewinol [8] gyda 1-2% o heintiadau HIV yn yr India.[9] O bosib, gellir priodoli'r gwahaniaeth hwn i'r is-fath o HIV yn India. Weithiau gwelir mania'n gysylltiedig ag AIDS mewn cleifio gydag afiechyd HIV datblygedig; mae'n arddangos ei hun gyda mwy o namau gwybyddol a llai ewfforig na thro manig a gysylltir ag anhwylder deubegwn go iawn. Yn aml, gwelir y cyflwr hwn wrth ddechrau triniaeth aml-gyffur.
Hanes
golyguCafwyd yr adroddiad cyntaf o AIDS ar y 5ed o Fehefin, 1981 pan gofnododd Canolfan Rheoli ac Atal Afiechydon yr Unol Daleithiau glwstwr o Niwmonia Pneumocystis carinii (sydd dal i gael ei alw'n PCP er ei fod yn cael ei achosi gan Pneumocystis jirovecii) ymhlith pum dyn hoyw yn Los Angeles. Yn wreiddiol, nid oedd gan y Ganolfan Rheoli ac Atal Afiechydon enw am yr afiechyd a chyfeiriasant ato yn ôl yr afiechydon a oedd yn gysylltiedig ag ef e.e. lymphadenopathy, Kaposi's Sarcoma a Heintiadau Manteisgar. Yn y wasg, defnyddiwyd y term GRID, a oedd yn dalfyrriad o Gay-related immune deficiency. Wrth geisio penderfynu ar enw am y cyflwr, edrychodd y Ganolfan Rheoli ac Atal Afiechydon ar y cymunedau a effeithiwyd gan yr afiechyd, a defnyddiasant yr ymadrodd “afiechyd y 4H,” oherwydd ymddengys fod yr afiechyd yn targedu Haitïaid, hoywon, hemoffiliacs a defnyddwyr heroin. Fodd bynnag, wedi iddynt ddarganfod nad oedd AIDS yn afiechyd ac effeithio'r gymuned hoyw'n unig, ystyriwyd y term GRID yn gam-arweiniol a chyflwynwyd yr enw AIDS mewn cyfarfod ym mis Gorffennaf 1982. Erbyn mis Medi 1982 dechreuodd y Ganolfan Rheoli ac Atal Afiechydon ddefnyddio'r term AIDS.
Awgryma astudiaeth ddiweddar fod HIV mwy na thebyg wedi symud o Affrica i Haiti ac yna wedi lledu i'r Unol Daleithiau tua 1969.[10]
Cymdeithas a diwylliant
golyguStigma
golyguGwelir stigma ynglŷn ag AIDS mewn amryw ffyrdd ledled y byd. Gall y ffyrdd yma gynnwys alltudiaeth, gwahaniaethu ac osgoi pobl sydd â HIV; profi HIV gorfodol heb ganiatâd ymlaen llaw neu sicrwydd o gyfrinacholdeb; trais yn erbyn unigolion sydd â HIV neu bobl y tybir sydd â HIV; a rhoi person sydd â HIV mewn cwarantîn.[11] Mae ofn o drais yn sgil y stigma yn rhwystro rhai pobl rhag cael eu profi, dychwelyd i gael eu profion neu dderbyn triniaeth, ac o ganlyniad yn troi afiechyd y gellir delio ag ef yn ddedfryd o farwolaeth.[12]
Yn aml, mae'r stigma o AIDS yn gysylltiedig â gwarthnodau eraill, yn benodol gwarthnodau a gysylltir â chyfunrywioldeb, deurywioldeb, anfoesoldeb rhywiol, puteindra a'r defnydd o gyffuriau mewnwythiennol.
Mewn nifer o wledydd datblygedig, ceir cysylltiad rhwng AIDS â chyfunrywioldeb neu deurywioldeb, ac mae'r cysylltiad hwn yn cyd-fynd â lefelau uwch a rhagfarn rywiol fel agweddau homoffobig.[13] Hefyd, gwelir cysylltiad rhwng AIDS a holl ymddygiad rhywiol gwryw-i-wryw, gan gynnwys rhyw rhwng dynion sydd heb eu heintio.[14]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan elusen HIV ac AIDS: AVERT.[dolen farw]
- ↑ "Gwefan y National Cancer Institute". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-09. Cyrchwyd 2008-12-16.
- ↑ Gwefan Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol y DU.
- ↑ [Zaidi SA, Cervia JS (2002). "Diagnosis and management of infectious esophagitis associated with human immunodeficiency virus infection". J. Int. Assoc. Physicians AIDS Care (Chic Ill) 1 (2): 53–62. PMID 12942677.
- ↑ ^Guerrant RL, Hughes JM, Lima NL, Crane J (1990). "Diarrhea in developed and developing countries: magnitude, special settings, and etiologies". Rev. Infect. Dis. 12 (Suppl 1): S41–S50. PMID 2406855.
- ↑ Luft BJ, Chua A (2000). "Central Nervous System Toxoplasmosis in HIV Pathogenesis, Diagnosis, and Therapy". Curr. Infect. Dis. Rep. 2 (4): 358–362. PMID 11095878.
- ↑ Sadler M, Nelson MR (1997). "Progressive multifocal leukoencephalopathy in HIV". Int. J. STD AIDS 8 (6): 351–357. PMID 9179644.
- ↑ Grant I, Sacktor H, McArthur J (2005). "HIV neurocognitive disorders". in H. E. Gendelman, I. Grant, I. Everall, S. A. Lipton, and S. Swindells. (ed.) (PDF). The Neurology of AIDS (2nd ed.). London, UK: Oxford University Press. td. 357–373. ISBN 0-19-852610-5.
- ↑ Satishchandra P, Nalini A, Gourie-Devi M, et al (2000). "Profile of neurologic disorders associated with HIV/AIDS from Bangalore, South India (1989–1996)". Indian J. Med. Res. 11: 14–23. PMID 10793489.
- ↑ Gilbert MT, Rambaut A, Wlasiuk G, Spira TJ, Pitchenik AE, Worobey M (2007). "The emergence of HIV/AIDS in the Americas and beyond". Proc. Natl. Acad. Sci. U.S.A. 104 (47): 18566–70. doi:10.1073/pnas.0705329104. PMID 17978186.
- ↑ "The impact of AIDS on people and societies"(PDF). Adroddiad 2006 ar yr epidemig AIDS fyd-eang.] UNAIDS. Adalwyd 29-03-2009
- ↑ Ogden J, Nyblade L (2005). "Common at its core: HIV-related stigma across contexts" Archifwyd 2013-05-02 yn y Peiriant Wayback (PDF). International Center for Research on Women. Adalwyd ar 2007-02-15.
- ↑ "HIV-related stigma and knowledge in the United States: prevalence and trends, 1991-1999" (PDF). Archifwyd 2011-07-22 yn y Peiriant Wayback Herek GM, Capitanio JP, Widaman KF (2002). Am J Public Health 92 (3): 371–7. PMID 11867313. Adalwyd 2008-03-10
- ↑ "AIDS Stigma and sexual prejudice" (PDF) Archifwyd 2011-07-22 yn y Peiriant Wayback Herek GM, Capitanio JP (1999). . American Behavioral Scientist 42 (7): 1130-1147. doi:10.1177/0002764299042007006. Adalwyd 2006-03-27.
Dolenni Allanol
golygu- (Saesneg) Fast fact about HIV Archifwyd 2008-09-08 yn y Peiriant Wayback o wefan UNAIDS (Joint United Nations Programme On HIV/AIDS).