Rho ben ar y syniad hyn, os gweli di'n dda

golygu

"Yn bennaf dwi'n symud tudalennau sy'n defnyddio enwau Saesneg i'w henwau Cymraeg os ydyn nhw'n enw Cymraeg yn barod." meddi di ar dy dudalen. Mae hynny'n syniad ofnadwy, a rhaid iti atal tân ar unwaith! Nid enwau Saesneg yw "Spider-Man", "Batman" ac yn y blaen. Er eu bod o darddiad Saesneg, enwau priod ydyn nhw, ac felly nid oes angen eu cyfieithu. Hyd nes bod Cymry Cymraeg yn defnyddio'r enwau "Corryn-Dyn", "Ystlumddyn" ayyb, dylem ni barhau i ddefnyddio'r ffurfiau cyfarwydd. Diolch! Craigysgafn (sgwrs) 05:32, 22 Mehefin 2024 (UTC)Ateb