Sgwrs Nodyn:Gwyliau Celtaidd

Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Xxglennxx ym mhwnc Gŵyl Galan Awst a Lugnasad

Gaelaidd?

golygu

Pam "Gwyliau Gaelaidd"? (="Gaelic"). Os felly ni allant fod yn wyliau Cymreig. Ond mae nhw'n rhan o draddodiad Cymru a'r byd Celtaidd ehangach hefyd. 'Gwyliau Celtaidd' fyddai'r disgrifiad gorau, mae'n debyg. Anatiomaros 15:31, 9 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Ti sy'n iawn, Anatiomaros. Pan greais i'r nodyn, y cwbl gwnes i oedd cyfieithu'r peth, heb feddwl go iawn am y peth. Dwi wedi newid y nodyn Saesneg hefyd. Newidiaf yr enw ayyb nawr. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 23:11, 9 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Gŵyl Galan Awst a Lugnasad

golygu

Mae'r ddwy ŵyl yma'n cyfeirio at yr un ŵyl, sef Lughnasadh yn Saesneg. Ar yr erthygl Saesneg, Lugnasad yw'r cyswllt Cymraeg. Oes rhaid cadw'r ddwy erthygl? Beth am gyfuno nhw i jyst Gŵyl Galan Awst neu Lugnasad? Dwi'n gweld ei bod yn "Lughnasadh" i'r Gaels, felly rydym yn gallu pwyntio hyn allan yn "Gŵyl Galan Awst". Dwi o blaid o symud cynnwys Lugh i Gŵyl Galan Awst, ac wedyn cael gwared â Lugh. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 23:23, 9 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Cytuno. Eu cyfuno fyddai orau, fel rwyt ti'n ei awgrymu. Gŵyl Galan Awst, bellach, ydy'r term Cymraeg ac felly dyma ddylai'r teitl fod yn te? Fodd bynnag, gan mai Anatiomaros a greodd yr erthygl Cymraeg Lugnasad awgrymaf dy fod hefyd yn ei holi e. Llywelyn2000 08:24, 10 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Yn union. Dwi wedi gadael neges ar ei sgwrs e hefyd, felly arhoswn ni nes gael ymateb ganddo :) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:09, 10 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Does dim wrthwynebiad gennyf os ydych chi am gyfuno'r erthyglau. Mae'n amser maith ers i mi greu'r erthygl (eginyn digon tila!). Y rheswm, os cofiaf yn iawn, oedd fod dwy erthygl i'w cael ar yr Anglopedia, un am yr ŵyl Geltaidd a'r llall am Lammas Day (Calan Awst), gŵyl eglwysig sy'n cael ei dathlu mewn nifer o wledydd ac sy'n wahanol i Lughnasad. Yng Nghymru mae Calan Awst yr un peth â Lughnasad, yn y bôn, neu o leia mae nhw'n rhannu'r un dyddiad, ond mae Lammas Day yn rhyngwladol yn hytrach na Cheltaidd. Rhaid fod gan 'en' erthygl ar wahân am Lammas Day, baswn i'n meddwl, ond dwi ddim wedi bod yno ers sbel... Anatiomaros 19:29, 10 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Dwi ddim wedi gweld fe o gwbl (Lammas Day, hynny yw). Iawn 'te, felly ydych chi'n ddau yn cytuno i gadw Gŵyl Galan Awst a throsglwyddo cynnwys Lugnasad iddi, ac ailgyfeirio Lugnasad i Gŵyl Galan Awst? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 20:51, 10 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Ydwn. Os ydy Llywelyn o'r un farn, ac ymddengys ei fod. Anatiomaros 20:56, 10 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
ON Ond rhyfedd fod dim byd am Lammas Day ar en.... Anatiomaros 20:57, 10 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Gweler en:Lammas. Anatiomaros 20:59, 10 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Wedi gwneud. Efallai gallet dacluso'r erthygl felly dyw hi ddim yn ailddweud yr un pethau? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:09, 10 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Ahh. Wrth ddarllen y LEAD ar en, mae'n galw hi'n "Lammas Day" yn lle "Lammas", sydd enw'r erthygl ei hun. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:12, 10 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Gwyliau Celtaidd".