Sgwrs Wicipedia:Cwrteisi

Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Sanddef

Er gwybodaeth - y rheswm roeddwn i wedi gwrthdroi cyfraniad Y ddraig felyn yw oherwydd dylai pob defnyddiwr geisio bod yn gwrtais hyd yn oed oes yw rhywun yn anghwrtais iddynt. Os yw defnyddiwr yn anghwrtais yn y lle cyntaf, gellir cymryd camau er mwyn blocio'r defnyddiwr hynny. Dylai hyn ddod yn fwy eglur wrth i'r polisi gael ei ehangu. Rhodri77 13:45, 28 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Diolch am yr esboniad. Cyrhaeddais i jyst yng nghanol dadl rhwng dau ddefnyddiwr arall, a dwi'n ceisio dychmygu'r un sefyllfa ond odan y rheolau newydd am "gwrteisi". Mae hi'n ymddangos i mi y fydden nhw'n rhoi i'r golgydd oedd yn honni ei fod yn berchen ar nifer o erthyglau (ac oedd yn cwyno ar dudalen y gweinyddwyr am Sanddef achos ei fod wedi golygu "ei" erthyglau) y cyfle i guddio y tu o^l i'r rheolau hyn er mwyn osgoi pob beirniadaeth o'i weithredoedd.

Does dim "rheolau newydd". Mae'r rheol yma yn bod ar draws pob wici; yr unig beth sy'n newydd yw bod crynodeb ohoni yn Gymraeg. Rhion 14:21, 28 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Rwyf wedi tynnu'r sylw "(oni bai eu bod nhw'n gofyn amdano yn ymarferol o achos eu hymddygiad cyffredinol)" - gweler sylwadau Rhodri uchod. Rhion 14:44, 28 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Cwestiwn! Un peth a oedd wrth wraidd yr anghydfod diweddar rhwng Sanddef a xxxGlenxxx oedd defnydd/safon ieithyddol. Yn y polisi hwn, a fyddai'n syniad cynnwys brawddeg neu ddwy yn dweud na ddylid beirniadu safon ieithyddol pobl sydd wedi dysgu'r Gymraeg ac sy'n amlwg yn gwneud ymdrech i gyfrannu'n adeiladol at y prosiect hwn? Byddai modd ei gynnwys yn yr adran "Cydweithrediad a chwrteisi" lle mae'n son am fod yn amyneddgar a chroesawgar o ddefnyddwyr eraill. Beth yw barn pawb arall? Rhodri77 15:34, 28 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

A minnau sy'n siaradwr ail-iaith y Gymraeg. Ond dwi'n meddwl eich bod chi'n methu gwahaniaethu'r "wraidd" a'r canghennau. Perchenogaeth ar erthyglau oedd y wraidd. Ni fasai'r ffaith roedd Xxglennxx wedi gwneud nifer o wallau ddim wedi dod yn ddadl mor enfawr pe tai fo'n barod i dderbyn newidiadau i'w destun gan Sanddef

O.N. Os mae pobl am feirniadu fy safon ieithyddol, ca^nt ei wneud. Wna i ddim gwyno am "annhegwch", jyst oherwydd bod siaradwyr brodorol yn ysgrifennu'r iaith yn well na fi ac yn ei ddweud. Os ydych chi am gael gwyddoniadur o safon ieithyddol uwch, mae hi'n ymddangos i mi bod rhoi mwy o bwys ar amddiffyn teimladau'r dysgwyr na chynnal y safon honno yn hollol dwp

Roedd o wedi bod yn dadwneud cywiriadau iaith i'w gyfraniadau gan eraill, a hynny am dros flwyddyn, cyn iddo ymddangos dan yr enw hwnnw, gan anwybyddu pob deisyfiad arno i beidio gwneud hynny. Anwybyddodd hefyd bob diffiniad o air nad oedd yn cydffurfio â'i agenda od i Wiccaseisnigeiddio'r Gymraeg. Mewn byr o eiriau, doedd ganddo ddim diddordeb o gwbl mewn cael ei gywiro nac mewn gwrando ar eraill, a doedd gen innau ddim diddordeb mewn boddio ei fympwyon. Sanddef 20:40, 4 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Return to the project page "Cwrteisi".