Pwyles-Americanaidd yw Sharon Mesmer (ganwyd 5 Rhagfyr 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur ffuglen, awdur traethodau a bardd. Bu'n athro prifysgol mewn ysgrifennu creadigol am rai blynyddoedd.[1]

Sharon Mesmer
Ganwyd5 Rhagfyr 1960 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethllenor, bardd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Fe'i ganed yn Chicago, Illinois yn Unol Daleithiau America. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia a Choleg Brooklyn.[2][3]

Mae hi'n dysgu yn y rhaglenni israddedig a graddedig ym Mhrifysgol Efrog Newydd a'r Ysgol Newydd. Mae hi wedi byw yn Brooklyn, Efrog Newydd ers 1988 ac mae'n berthynas bell i Franz Anton Mesmer, cynigydd y syniad o fagnetedd anifeiliaid (neu mesmerism) ac Otto Messmer, yr animeiddiwr Americanaidd sydd fwyaf adnabyddus am greu Felix the Cat.

Derbyniodd Mesmer B.A. mewn Ysgrifennu / Saesneg o Goleg Columbia, lle daeth i gysylltiad â myfyrwyr benywaidd eraill, yn arbennig Lydia Tomkiw a Deborah Pintonelli, symbylwyr cysylltiadau rhwng barddoniaeth Chicago a golygfeydd cerddoriaeth pync (beirdd lleol amlwg eraill ar y pryd Elaine Equi a Jerome Sala). Cyhoeddodd Mesmer, Pintonelli a'r bardd Connie Deanovich y cylchgrawn llenyddol B City, ac yn ddiweddarach cyhoeddodd Mesmer, Pintonelli, a'r bardd / awdur ffuglen Carl Watson letter eX.

Gweithiau

golygu

Ymlith ei chasgliadau o farddoniaeth y mae: Annoying Diabetic Bitch (Combo Books, 2008), The Virgin Formica (Hanging Loose Press, 2008), Vertigo Seeks Affinities (Belladonna Books, 2007), Half Angel, Half Lunch (Hard Press, 1998) a Crossing Second Avenue (ABJ Press, Tokyo, 1997). Mae ei chyfrolau o ffuglen yn cynnwys: Ma Vie à Yonago (Hachette Littératures, Paris, 2005), In Ordinary Time (Hanging Loose Press, 2005) a The Empty Quarter (Hanging Loose Press, 2005).

Anrhydeddau

golygu


Cyfeiriadau

golygu
  1. [1], "Back of the Yards," Encyclopedia of Chicago.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
  3. Dyddiad geni: "Sharon Mesmer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.