Shefali Chowdhury

actores a aned yn 1988

Actores o Gymru yw Shefali Chowdhury (ganwyd 20 Mehefin 1988) sydd o dras Bangladeshi. Caiff ei hadnabod am chwarae rôl Parvati Patil yn nghyfres ffilmiau Harry Potter, heblaw am Harry Potter and the Prisoner of Azkaban (2004), lle caiff y rôl ei chwarae gan Sitara Shah.

Shefali Chowdhury
Ganwyd20 Mehefin 1988 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
Man preswylBirmingham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Chweched Dosbarth Solihull
  • Waverley School
  • Birmingham City University Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHarry Potter and the Goblet of Fire Edit this on Wikidata
Taldra1.63 metr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Chowdhury yw'r ieuengaf o bump, a ganwyd hi yn Ninbych, Cymru. Mae ei rhieni yn dod o Fangladesh, a symudon nhw i Brydain yn 1980. Pan roedd hi'n chwech oed, symudodd i Firmingham, Lloegr.

Gyrfa golygu

Adnabyddir Chowdhury am ei pherfformiad fel Parvati Patil ym mhedair o ffilmiau Harry Potter, gan ddechrau yn 2005 yn Harry Potter and the Goblet of Fire. Cafodd hi'r rôl pan roedd hi'n ei blwyddyn olaf yn Ysgol Waverley ym Mirmingham. Mae hi a Afshan Azad, (a oedd yn chwarae rôl efaill Chowdhury Padma Patil) yn dal i fod yn ffrindiau da, yn ôl Azad.[1]

Ffimiau golygu

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2005 Harry Potter and the Goblet of Fire Parvati Patil
2007 Harry Potter and the Order of the Phoenix
2009 Harry Potter and the Half-Blood Prince
2015 I Am the Doorway Ffilm fer
Heist: Jane
Ffilm fer

Cyfeiriadau golygu

  1. "NR chats to GOF's Patil twins". Newsround. BBC. 17 November 2005. Cyrchwyd 11 February 2007.

Dolenni allanol golygu