Mae shinjitai (yn shinjitai: 新字体; yn kyūjitai: 新字體; gan olygu "ffurf y cymeriad newydd") yn ffurfiau o kanji a ddefnyddir yn Japan ers cyhoeddi'r Rhestr Kanji Tōyō ym 1946. Mae rhai ffurfiau yn shinjitai ar gael hefyd yn Tsieinëeg symledig, ond nid yw shinjitai mor ymestynnol mewn cwmpas ei haddasiad. O'r herwydd, mae kanji Japaneg ddiweddar yn tebygu'n well i gymeriadau Tsieinëeg traddodiadol. O ddiweddar, mae'r Japaneg wedi cael ei haddasu'n drwyadl - ysgrifennir nifer o eiriau yn hiragana bellach yn unig (e.e., geiriau syml, geirynnau) neu yn katakana yn unig (e.e., onomatopoeia, benthygeiriau, anifeiliaid). Felly, mae'r rhif cyffredinol o kanji a ddefnyddir o fewn Japaneg ddiweddar yn llawer llai nag yn Tsieinëeg.

Shinjitai
Math o gyfrwngsystem ysgrifennu Edit this on Wikidata
MathKanji Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
Rhan oJapanese script reform Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu28 Ebrill 1949 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gankyūjitai Edit this on Wikidata
Enw brodorol新字体 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Crëwyd shinjitai gan leihau'r nifer o strociau yn kyūjitai (旧字体/舊字體, gan olygu "ffurf yr hen gymeriad"), kanji ni symleiddiwyd sydd yn gyfartal i gymeriadau Tsieinëeg traddodiadol.

Bu cwbl o gamau er mwyn symleiddio'r iaith ers y 1950au, ond dim camau ers cyhoeddi'r Rhestr Kanji Jōyō ym 1981.

Dolenni allanol

golygu

Trawsnewid glyffiau

golygu