Siân Bwt
Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd Siân Bwt neu Siani Bwt a oedd yn byw yn Llanddona, Ynys Môn. Mae gwrachod Llanddona'n cael eu cyfri'n giwed o wrachod enwog iawn.
Siân Bwt | |
---|---|
Man preswyl | Llanddona |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Yn ôl chwedloniaeth Ynys Môn, roedd holl wrachod Llanddona yn ddisgynyddion o un teulu’n unig. Mi fyddai’r gwrachod yn cario’r traddodiad ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth.
Yn ôl bob sôn mi fydden nhw’n crwydro Ynys Môn a’u gwallt yn rhydd a’u bronnau’n noeth, yn gofyn am fwyd. Ofnai’r bobl lleol eu melltithion, a ni fyddai unrhyw un yn cynnig yn eu herbyn mewn ocsiwn.
Roedd dynion y teulu yn gwneud eu harian o smyglo, ac mi roedd yn ôl bob sôn, yn amhosib i’w dal. Roedd gan bob dyn gadach o amgylch ei wddf oedd yn dal pryfyn. Unrhyw dro fydde’r cadach yn cael ei datod, mi fyddai’r pryfyn yn hedfan i lygaid eu gelynion a’u dallu.
Roedd Siân Bwt yn cael ei hadnabod ym Miwmares fel ‘Witch Bach Llanddona’. Yn ôl y chwedl, roedd hi’n llai na phedair troedfedd o daldra, ac ar ei llaw chwith roedd ganddi ddau fawd. Mae ei bedd i'w weld o hyd wrth fur deheuol Eglwys Llanddona.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "KSSIjWSSSMBaftKa1vCORACHODENWOG - Papur Pawb". Daniel Rees. 1899-04-29. Cyrchwyd 2019-10-29.