Gwrachod Llanddona
Chwedl werin adnabyddus ar Ynys Môn yw chwedl Gwrachod Llanddona.
Math | chwedl |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Yn ôl y chwedl cyrhaeddodd saith cwch mawr heb hwyl na rhwyfau i’r lan yn Nhraeth Coch gerllaw pentref Llanddona yn ne-ddwyrain Môn. Roedd y rhain yn wrachod, yn cynnwys Siani Bwt, Bella Fawr a Wini Wyllt a daethant yn enwog am eu gallu i felltithio (rheibio), yn enwedig Bella Fawr. Dywedid eu bod yn gallu newid eu ffurf a throi'n anifeiliaid, yn enwedig ysgyfarnogod. Ni chawsant groeso gan drigolion Llanddona, fodd bynnag. Pan ddaeth y gwrachod oddi ar y cwch roedden nhw'n sychedig iawn ac angen diod felly trawodd un o’r gwrachod ei ffon yn erbyn y llawr a dyma ffynnon ddŵr yn codi allan o’r tywod sych.
Mae llawer o bobl yn dweud bod y gwrachod wedi dod o Iwerddon neu Sbaen gan fod llawer o bobl yn y gwledydd hyn yn cael eu dienyddio am wneud drygau a melltithio. Yn ôl y chwedl pan dynnodd y gwrachod eu sgarffiau roedd pryfed yn dod allan ohonyn nhw.
Hanes
golyguYn ôl yr hanes roedd un o'r gwrachod sef Siani Bwt yn sychedig ac eisiau diod yn ofnadwy. Roedd hi wedi penderfynu troi yn sgwarnog a rhuthro i gae gŵr o'r enw Goronwy Tudur lle roedd gwartheg yn pori. Sugnodd Siani Bwt dethi un o'r gwartheg pan ddaeth Goronwy Tudur allan efo'i wn. Saethodd hi yn ei choes.
Yn ôl y traddodiad roedd rhai o’r gwrachod yn gwneud drachtiau fel drachtiau gwenyn a lwc ddrwg. Daeth Cil Hael o Gaernarfon i hela'r Gwrachod, ond doedd o ddim yn llwyddiannus ac aeth adref a'i gynffon rhwng ei goesau.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Hanes Gwrachod Llanddona o ngfl-cymru.org.uk, bellach ar gael oherwydd yr Internet Archive Wayback Machine