Jennie Thomas

awdur (1898-1979)

Awdures llyfrau plant yn y Gymraeg oedd Jennie Thomas (1898 - 1979). Fe'i cofir yn bennaf fel awdures llyfrau am anturiaethau Wil Cwac Cwac ac fel cyd-awdures Llyfr Mawr y Plant.[1]

Jennie Thomas
Ganwyd1898 Edit this on Wikidata
Penbedw Edit this on Wikidata
Bu farw1979 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethawdur Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu
 
Wil Cwac Cwac yn y 1980au

Cafodd Jennie Thomas ei geni ym Mhenbedw, Cilgwri, i rieni o Gymry Cymraeg (brodor o Fôn oedd ei thad ac o Geredigion y daeth ei mam). Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Lerpwl, daeth yn ôl i'w gwreiddiau teuluol yn y gogledd ac ymsefydlodd ym Methesda lle cafodd waith fel athrawes yn Ysgol y Cefnfaes yno, lle'r oedd y llenor J. J. Williams yn brifathro. Cafodd swydd yn nes ymlaen fel Trefnydd Iaith i ysgolion cynradd Sir Gaernarfon, gyda'r dasg o hyrwyddo'r Gymraeg yn ysgolion y sir.[1]

Creodd y cymeriadau hoff Siôn Blewyn Coch a Wil Cwac Cwac ar gyfer y gyfrol gyntaf o Lyfr Mawr y Plant (1931). Cyhoeddodd sawl cyfrol am anturiaethau Wil Cwac Cwac yn ogystal, a oedd yn sail i gyfres o ffilmiau animeiddiedig yn nes ymlaen, a ddarlledwyd rhwng canol yr 1980au a dechrau'r 1990au.[1]

Llyfryddiaeth ddethol

golygu
  • (cyd-awdures), Llyfr Mawr y Plant (Wrecsam, 1931, 1939, 1949)
  • (gol.), Hwiangerddi (1945)
  • (cyd-awdures), Chwaraeon ysgol i'r babanod (1947)
  • Wil Cwac Cwac (llyfr) (Wrecsam, 1947)
  • (gol.), Llyfrau Darllen a Lliwio (1951, 1952)
  • (gol.), Celfi Darllen (1953-56)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Mairwen a Gwynn Jones, Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983).