Siambr Gladdu Trellyffaint
Beddrod porth Cymreig clasurol yw Dolmen Trellyffaint a cheir maen hir gerllaw. Saif i'r gogledd o Nanhyfer (Sir Benfro) ac i'r gorllewin i bentrefan Gethsemane, ar ochr ddeheuol bryncyn bychan yn Nyffryn Nanhyfer rhwng dwy nant sy'n llifo i Afon Nyfer. Beddrod dwbl, gyda phrif siambr a siambr fach, eilaidd yw Trellyffaint. Mae ganddo faen capan uwch y brif siambr, tua 35 o farciau crwn a elwir yn 'farciau cwpan' a cheir dadl a ydynt yn naturiol ai peidio. Roedd y siambr yn arfer bod tipyn uwch, ond llithrodd a thorrodd y capfaen.
Enghraifft o'r canlynol | dolmen porth, siambr gladdu |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Nanhyfer |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae disgrifiad Coflein o'r gromlech yn fyr iawn: 'Ceir yma chwe charreg fertigol wedi'u hangori yn y ddaear: mae tri ohonynt yn cynnal maen capan, tra bod dau arall, i'r gogledd-orllewin, yn ffurfio rhan o ail siambr. Ceir marciau cwpan posibl ar y maen capan: adroddwyd fod yma 'ôl twmpath' ond nid oedd yn amlwg erbyn 1966.'[1]
Dim ond tair carreg ochr sydd yn y siambr lai i'r gogledd-orllewin. Gall fod y siambr hon wedi'i hychwanegu'n ddiweddarach ac mae'n bosibl bod carnedd o bridd wedi gorchuddio'r ddwy siambr ar un adeg.
Ceir maen hir tua 200 metr i'r de a thua 1.0 km i ffwrdd mae Coeten Llech-y-Tripedd.
-
Y gromlech o'r gogledd
-
o'r de
-
Maen Hir Trellyffaint
-
o'r gorllewin
Mae'r gromlech wedi'i lleoli islaw'r ffordd y tu ôl i gwrt fferm amlwg, gyda seilo mawr. Oddi yno dylid cerdded i'r gorllewin i'r ffordd fach nesaf i fferm Trellyffaint. Gellir parcio yno a cheir mynediad wedi'i ffensio trwy gaeau a llwybrau pridd at y gromlech.
Saif Carreg Vitalianus wrth ymyl mynedfa Eglwys Sant Brynach yn Nanhyfer.
Llenyddiaeth
golygu- Vicki Cummings, Alasdair Whittle: Places of Special Virtue: Megaliths in the Neolithic landscapes of Wales (Lleoedd o rinwedd arbennig. Megalithau yn nhirweddau Neolithig Cymru). Oxbow, Rhydychen 2004, ISBN 1-84217-108-9 .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ coflein.gov.uk; Gwefan Coflein; adalwyd 6 Ebrill 2024.