Siambrau claddu al-Ayn
Siambrau claddu cynhanesyddol yn Oman yw siambrau claddu al-Ayn. Maent yn gorwedd yng ngogledd y wlad ar safle anghysbell yn yr anialdir. Mae'r henebion hynafol hyn yn perthyn i ddosbarth o feddrodau a elwir yn 'gladdgelloedd cwch gwenyn' (Saesneg: beehive tombs) gan archaeolegwyr oherwydd eu ffurf nodweddiadol sy'n debyg i gychod gwenyn.
Math | siambr gladdu |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Oman |
Cyfesurynnau | 23.21636°N 56.96194°E |
Credir i'r henebion hyn gael eu adeiladu yn y 3g CC. Cawsant eu rhoi ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1988.
Dolenni allanol
golygu- Tudalen Siambrau claddu al-Ayn ar wefan UNESCO (Saesneg)