Siambr gladdu
siambr, neu ogof wneud, lle rhoddir corff dynol marw i'w orffwys
(Ailgyfeiriad o Siambrau claddu)
Siambr, neu ogof wneud, lle rhoddir corff dynol marw i'w orffwys ydy siambr gladdu a honno wedi'i gorchuddio gyda phridd. Fel arfer cysylltir y gair gyda defodau claddu Oes Newydd y Cerrig, Oes yr Efydd a chyn hynny. Arferid gosod strwythur o gerrig enfawr yn gyntaf i ddal y bryncyn a roddid ar ei ben ac weithiau gellir gweld y cromlechi (neu garnedd pan fo'r pridd a oedd unwaith yn eu gorchuddio wedi erydu gan y gwynt a'r glaw.
Math o gyfrwng | bedd, beddrod |
---|---|
Math | beddrod, tomb space |
Mae cromlechi a charneddi, felly, yn gerrig noeth a siambr gladdu yn domen o bridd ar ffurf bryncyn bychan.
Mathau gwahanol o siambrau claddu
golygu- Beddrod Hafren-Cotswold
- Siambr Gladdu Hir
- Beddrod siambr
- Crug crwn (term Saesneg Cadw ydy Round Barrow[1])
Rhai siambrau claddu
golyguCymru
golyguGweler hefyd: Rhestr o Siambrau Claddu yng Nghymru
- Bryn Celli Ddu, Môn
- Barclodiad y Gawres, Môn
- Siambr gladdu Capel Garmon, Sir Conwy
- Penycloddiau, Sir Ddinbych
- Carnedd y Gop ger Trelawnyd, Sir y Fflint. Diametr: 100m[2]
Yr Alban
golyguLloegr
golyguEraill
golygu- Magdalenenberg, yr Almaen
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Archaeoleg Cambria" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-11-25. Cyrchwyd 2010-10-26.
- ↑ "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-14. Cyrchwyd 2010-09-30.