Mae Siân Davies yn fodel sydd wedi ymddangos ar glawr Skin Deep a cylchgrawn ar tatŵs. Mae hi'n dod o Lanfairynghornwy, Sir Fôn ac wedi gweithio gyda gornestau paffio.[1][2][3]

Siân Davies: ar glawr Skin Deep am y trydydd tro

Mae ei llun hi wedi ymddangos hefyd yng nghylchgrawn mwyaf Ewrop: Tatoo Spirit. Creuwyd ei thatŵ dwaetha gan yr arlunydd Shakey Pete: llun paun, sydd wedi cymryd 55 awr i gyd. Ei asiant ydy Scott Cole Photography. Cafodd ei thatŵ cyntaf yn Hanky Pank, Amsterdam, lle cafodd luniau o flodau ceirios ar i hysgwydd.

Mae Siân hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau horror: Zombies from Ireland oedd y cyntaf (Cyfarwyddwr: Ryan Kift) a bydd yn ymddangos yn Mermaids from Mars cyn hir.

Ymddangosodd hefyd yn

golygu
  • Actio yn y gomedi Gwlad Yr Astra Gwyn, S4C [4]
  • Llun clawr ar Golwg, ddwy waith
  • Y Lle (S4C) - cyflwyno a cynhyrchu
  • Actio yn y drama Zanzibar, S4C
  • Ddoe am Ddeg, S4C
  • Sioeau radio Geraint Lloyd, Taro'r Post a Lisa Gwilym
  • Cyfweliad byw ar Heno, S4C
  • Sioe Tudur Owen
  • Beirniad yng Ngŵyl Tatŵ 'Cariad Ink'

Cyfeiriadau

golygu
  1. Daily Post 27 Chwefror 2015
  2. Gwefan Facebook Sian Davies adalwyd 27 Chwefror, 2015
  3. Gwefan Skin Deep Archifwyd 2015-03-02 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 27 Chwefror 2015
  4. www.modelmayhem.com; adalwyd 27 Chwefror 2015