Sian Wheldon

actores a aned yn 1960

Actores ac athrawes Cymreig ydy Sian Wheldon (ganwyd 1960).[1] Mae'n adnabyddus i nifer oherwydd ei rôl fel Sandra yn y rhaglen C'mon Midffild! tua diwedd yr 1980au a dechrau'r 1990au. Ymddangosodd hefyd ar raglen EastEnders a The Bill.

Sian Wheldon
Ganwyd1960 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Yn 2002, enwyd Sian Wheldon yn y papurau fel un o'r rhai a geisiodd atal dynes a oedd yn byw yn ei char yn Llundain, gael ei throi allan gan y cyngor. Roedd Sian yn byw yn Llundain ar y pryd.[2]

Bu hefyd yn athrawes ddrama yng Ngholeg Menai. Erbyn hyn mae'n byw yn Llanfairfechan ac ers 2008 mae'n athrawes yn Ysgol Friars ym Mangor lle mae hi'n dysgu cymdeithaseg. Mae ganddi dri o blant.

Teledu

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 19 November 2018.
  2. The lady in the car 8 Mai 2002

Dolenni allanol

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.