John Jones, Maesygarnedd
Roedd John Jones, Maesygarnedd (1597 – 17 Hydref 1660) yn un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth Siarl I, brenin Lloegr a brawd-yng-nghyfraith Oliver Cromwell, Arglwydd Amddiffynnwr Lloegr.
John Jones, Maesygarnedd | |
---|---|
Ganwyd | c. 1597 Maesygarnedd |
Bu farw | 17 Hydref 1660 Charing Cross |
Galwedigaeth | person milwrol, gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the First Protectorate Parliament, Member of the 1642-48 Parliament, Member of the 1648-53 Parliament |
Plant | John Jones |
Bywgraffiad
golyguCafodd ei eni yn ffermdy Maesygarnedd (neu Maes y Garnedd) yng Nghwm Nantcol, Ardudwy, yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw), yn fab i Thomas Jones. Oherwydd nad ef oedd y mab hynaf gyrrwyd ef i Lundain i wasanaethu teulu Myddleton. Priododd Margaret merch John Edwards, Stanstey.[1]
Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Lloegr, ymunodd John Jones â byddin y Senedd. Erbyn 1646 roedd yn ymladd yng ngogledd Cymru ym myddin Syr Thomas Mytton fel Cyrnol, a'r flwyddyn wedyn daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd.
Roedd yn aelod o'r cwrt a fu'n profi Siarl I ar ddiwedd yr ail Ryfel Cartref, ac roedd yn un o'r rhai a roddodd eu henwau ar warant marwolaeth y brenin. Fe'i dewiswyd yn gomisiynwr Taeniad yr Efengyl yng Nghymru. Ym 1650 aeth i Iwerddon yn brif gomisiynydd i weinyddu'r wlad, ac yn 1655 gwnaed ef yn gomisiynydd dros ogledd Cymru. Roedd ei wraig gyntaf wedi marw yn yr Iwerddon y 1651, ac y 1656 ail-briododd a Katherine, chwaer Oliver Cromwell.[2]
Yn dilyn marwolaeth Cromwell ac ymddiswyddiad ei fab Richard Cromwell, fe gymerwyd John Jones yn garcharor gan wŷr y cadfridog George Monck yn 1660. Fe'i cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth, a chafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru yn Llundain ar 17 Hydref 1660.
Roedd Jones yn ŵr crefyddol iawn ac roedd yn gohebu a Morgan Llwyd a Vavasor Powell, a threfnodd i argraffu rhan o waith Morgan Llwyd yn Iwerddon.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ J. Graham Jones (1998). The History of Wales (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 70. ISBN 978-0-7083-1491-3.
- ↑ Arthur Herbert Dodd. "Jones, John, Maesygarnedd, Sir Feirionnydd, a'i deulu, 'y brenin-leiddiad'". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2021.
Dolenni allanol
golygu- Bywgraffiad y Cyrnol John Jones Archifwyd 2007-03-10 yn y Peiriant Wayback