Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban

teyrn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon o 1625 hyd 1649
(Ailgyfeiriad o Siarl I o Loegr a'r Alban)

Charles Stuart, Brenin Siarl I (19 Tachwedd 1600 - 30 Ionawr 1649) oedd Tywysog Cymru o 1616 hyd 1625, ac wedyn brenin Lloegr, yr Alban ac Iwerddon o 27 Mawrth 1625 tan ei ddienyddiad yn sgil Rhyfel Cartref Lloegr. Roedd ei deyrnasiad yn gyfnod o frwydro am rym rhwng y brenin a'r senedd. Yn bleidiwr brwd dros hawl ddwyfol brenhinoedd, gweithredai Siarl i gryfháu ei rymoedd ei hun, gan reoli heb y Senedd am gyfnod helaeth o'i deyrnasiad.

Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban
Ganwyd19 Tachwedd 1600 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Palas Dunfermline, Dunfermline Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ionawr 1649 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, teyrn yr Alban, Dug Iorc, teyrn Iwerddon Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl30 Ionawr Edit this on Wikidata
TadIago VI yr Alban a I Lloegr Edit this on Wikidata
MamAnn o Ddenmarc Edit this on Wikidata
PriodHenrietta Maria Edit this on Wikidata
PlantSiarl II, Mary Henrietta, Iago II & VII, y Dywysoges Elizabeth o Loegr, Y Dywysoges Anne o Loegr, Henry Stuart, Dug Caerloyw, Henrietta o Loegr, Charles James Stuart, Catherine Stuart Edit this on Wikidata
Llinachy Stiwartiaid Edit this on Wikidata
llofnod
Portread o Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban, tua 1780

Bywyd cynnar

golygu

Yn ail fab i'r Brenin Iago VI o'r Alban a'i wraig Anne o Ddenmarc, cafodd Siarl ei eni ym Mhalas Dunfermline yn yr Alban ar 19 Tachwedd 1600. Ar farwolaeth Elizabeth I o Loegr yn mis Mawrth 1603, dyrchafwyd ei dad i orsedd Lloegr. Roedd Siarl yn blentyn eiddil, ac, ar y dechrau, fe'i gadawyd yn yr Alban yng ngofal nyrsys rhag ofn i'w iechyd waethygu ar y daith hir i Lundain.

Teyrnasiad cynnar

golygu

Esgynodd Siarl i orsedd Lloegr a'r Alban ar farwolaeth ei dad ar 27 Mawrth 1625. Ar 13 Mehefin o'r un flwyddyn, priododd Henrietta Maria, yn absenoldeb y ddau gymar. Roedd ei senedd gyntaf, oedd wedi agor ym mis Mai, yn erbyn y briodas o'r cyntaf am mai pabyddes oedd hi, ac ofnid y byddai Siarl yn lleddfu mesurau yn erbyn pabyddion a thanseilio Protestaniaeth fel crefyddol swyddogol y deyrnas.

Brwydrau â'r Senedd

golygu

Roedd Siarl yn brwydo â'r Senedd yn ystod rhan helaeth o'i deyrnasiad.

Achos llys a'i ddienyddio

golygu
 
Print Almaenig o'r 17eg ganrif yn dangos dienyddiad Siarl I

Cyhuddiwyd Siarl o uchel frad ac uchel droseddau eraill ar 2 Ionawr 1649. Gwrthododd Siarl bledio gan fynnu nad oedd gan lys mo'r hawl i ddwyn achos yn erbyn brenin. Fe'i cafwyd yn euog, a llofnodwyd warant marwolaeth gan 59 o'r comisiynwyr, gan gynnwys John Jones, Maesygarnedd ar 29 Ionawr 1649. Fe'i dienyddiwyd y diwrnod wedyn ar lain o dir o flaen y Banqueting House yn Llundain.

Rhagflaenydd:
Iago VI/I
Brenin yr Alban
27 Mawrth 162530 Ionawr 1649
Olynydd:
Siarl II (gan 1660)
Rhagflaenydd:
Iago VI/I
Brenin Loegr
27 Mawrth 162530 Ionawr 1649
Olynydd:
Siarl II (gan 1660)
Rhagflaenydd:
Harri Stuart
Tywysog Cymru
16161625
Olynydd:
Siôr