Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Ieithoedd Lleiafrifol

Cytundeb i amddiffyn ieithoedd lleiafrifol

Cytundeb Ewropeaidd (CETS 148) a fabwysiadwyd ym 1992 o dan nawdd Cyngor Ewrop i ddiogelu a hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol hanesyddol yn Ewrop yw'r Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Ieithoedd Lleiafrifol (Saesneg: European Charter for Regional or Minority Languages neu ECRML). Paratowyd y siarter gan ragflaenydd i'r Gyngres Awdurdodau Rhanbarthol a Lleol cyfredol, y Gyngres Sefydlog i Awdurdodau Rhanbarthol a Lleol Ewrop oherwydd yr oedd yn hanfodol cynnwys llywodraethau rhanbarthol a lleol yn y broses. Ysgrifennwyd y siarter go iawn gan y Cynulliad Seneddol yn seiliedig ar Argymhellion y Gyngres. Mae'n cymhwyso'n unig ar ieithoedd a ddefnyddir yn draddodiadol gan bobl wladol y Partïon Gwladol (yn allgau, felly, ieithoedd a ddefnyddir yn ddiweddar gan fewnfudwyr o wledydd eraill), sy'n wahanol iawn i iaith swyddogol neu fwyafrifol (yn allgau, felly, yr hyn mae'r blaid wladol yn dymuno ystyried yn dafodiaith leol o'r iaith swyddogol neu fwyafrifol yn unig) ac sydd gan naill ai sail diriogaethol (ac felly yn cael eu siarad yn draddodiadol gan bobl o ranbarthau neu ardaloedd y Wlad) neu statws lleiafrifol ieithyddol o fewn y Wlad i gyd (ac felly yn cynnwys ieithoedd megis Yideg a Romani, sy'n cael eu defnyddio dros ardal ddaearyddol eang).

Aelodau sydd wedi llofnodi a chadarnhau mewn gwyrdd tywyll; y rhai sydd wedi llofnodi ond sydd heb gadarnhau mewn gwyrdd golau; y rhai sydd ddim wedi llofnodi na chadarnhau mewn gwyn; a'r rhai Cyngor Ewrop mewn llwyd

Cyfeiriadau golygu