Sid Bevan
Roedd Thomas Sidney "Sid" Bevan (2 Mai 1877 – 17 Hydref 1933) yn chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru a fu'n cynrychioli Cymru a'r Llewod Prydeinig. Chwaraeodd Bevan rygbi clwb i Abertawe, gan ymuno â'r clwb ym 1897.
Sid Bevan | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mai 1877 Cymru |
Bu farw | 17 Hydref 1933 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cefndir
golyguRoedd yn fab i Martin L. Bevan, fferyllydd a phostfeistr Treforys. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Ardwyn, Aberystwyth (lle fu'n chware i dîm pêl-droed y coleg). Bu'n gweithio fel clerc yn Swyddfeydd Gwaith Dur a Thunplat y Dyffryn.[1]
Gyrfa rygbi
golyguDaeth Bevan i nod fel chwaraewr rygbi wrth gynrychioli'r tîm lleol Clwb Rygbi Treforys.[2] Ym 1897 symudodd i ochr dosbarth cyntaf, Abertawe, ac wrth chwarae i Abertawe cafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru. Ei gap cyntaf, a'i unig gap, oedd ar 2 Mawrth 1904 ar Faes Sioe Balmoral yn Belfast yn erbyn Iwerddon [3]. Yn yr un flwyddyn, dewiswyd Bevan i gynrychioli Llewod Prydeinig Bedell Sivright ar eu taith o Awstralia a Seland Newydd.[4] Chwaraeodd mewn pedwar o'r gemau prawf.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Bevan yn ddirprwy is-gapten yn 6ed Bataliwn y Gatrawd Gymreig.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru[5]
- Iwerddon 1904
Y Llewod
- Awstralia 1904, 1904, 1904
- Seland Newydd 1904
Llyfryddiaeth
golygu- Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Penybont: Seren. ISBN 1-85411-262-7.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Brifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "FOOTBALLERS' GALLERY - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1898-11-28. Cyrchwyd 2019-07-15.
- ↑ "MORRISTON v LAMPETER - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1898-02-09. Cyrchwyd 2019-07-15.
- ↑ "WALES v IRELAND - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1904-03-08. Cyrchwyd 2019-07-15.
- ↑ "Rugby Tourists Bound Home - The Cambrian". T. Jenkins. 1904-09-09. Cyrchwyd 2019-07-15.
- ↑ Smith (1980), tud 463.