Sidney Poitier

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ac actor a aned yn Cat Island yn 1927

Roedd Sidney L. Poitier KBE (/ˈpwɑːtj/; 20 Chwefror 1927 – 6 Ionawr 2022)[1] yn actor Bahamaidd-Americanaidd, cyfarwyddwr ffilm, actifydd, a llysgennad. Ym 1964, enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau, gan ddod yr actor du cyntaf i ennill y wobr. [2] Derbyniodd ddau enwebiad Gwobr Academi arall, deg enwebiad Golden Globe, dau enwebiad Gwobrau Primetime Emmy, chwe enwebiad BAFTA, wyth enwebiad Laurel, ac un enwebiad Gwobrau Screen Actors Guild. Ar farwolaeth Kirk Douglas yn 2020, daeth Poitier yn un o'r sêr mawr olaf i oroesi o Oes Aur sinema Hollywood, ac enillydd Gwobr Academi gwrywaidd hynaf a chynharaf sydd wedi goroesi. Rhwng 1997 a 2007, gwasanaethodd Poitier fel Llysgennad Y Bahamas i Japan. [3]

Sidney Poitier
Ganwyd20 Chwefror 1927 Edit this on Wikidata
Miami Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ionawr 2022 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA Baner Y Bahamas Y Bahamas
Galwedigaethactor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, diplomydd, hunangofiannydd, cynhyrchydd ffilm, ysgrifennwr, awdur, actor teledu, actor llwyfan, actor, cyfarwyddwr theatr, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Swyddambassador of the Bahamas, ambassador of the Bahamas Edit this on Wikidata
Taldra1.89 metr Edit this on Wikidata
PriodJoanna Shimkus, Juanita Hardy Edit this on Wikidata
PartnerDiahann Carroll Edit this on Wikidata
PlantSydney Tamiia Poitier Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Marian Anderson Award, Gwobr Henrietta, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Gwobr Grammy am yr Albwm Llafar Gorau, NAACP Image Award for Outstanding Actor in a Television Movie, Mini-Series or Dramatic Special, NAACP Image Award – Hall of Fame Award, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Medal Spingarn, Black Filmmakers Hall of Fame, Gwobr Paul Robeson, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Silver Bear, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Cymdeithas Academi BAFTA, Silver Bear, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami, Gwobr 'silver seashell' am actor goray, Audie Award for Narration by the Author, Coretta Scott King Award Edit this on Wikidata

Cafodd Sidney L. Poitier ei eni yn Miami, UDA, fel yr ieuengaf o saith o blant,[4] yn fab i Evelyn (g. Outten) a Reginald James Poitier, ffermwyr Bahamaidd. Bu Reginald hefyd yn gweithio fel gyrrwr cab yn Nassau, Bahamas. [5] Cafodd Poitier ei fagu yn y Bahamas, a oedd ar y pryd yn drefedigaeth y Goron Brydeinig. Oherwydd fe'i ganwyd (yn annisgwyl) yn yr Unol Daleithiau, roedd ganddo hawl awtomatig i ddinasyddiaeth UDA.[6]

Ffilmiau golygu

  • Cry, the Beloved Country (1951)
  • Blackboard Jungle (1955)
  • Band of Angels (1957)
  • The Defiant Ones (1958)
  • Porgy and Bess (1959)
  • A Raisin in the Sun (1961)
  • The Long Ships (1963)
  • Lilies of the Field (1963)
  • The Greatest Story Ever Told (1965)
  • To Sir, with Love (1967)
  • In the Heat of the Night (1967)
  • Guess Who's Coming to Dinner (1967)
  • They Call Me Mister Tibbs! (1970)
  • Buck and the Preacher (1972)
  • To Sir, with Love II (1996, ffilm teledu)
  • Mandela and de Klerk (1997, ffilm teledu)

Cyfeiriadau golygu

  1. Stolworthy, Jacob (7 Ionawr 2022). "Legendary actor Sidney Poitier, first Black man to win Best Actor Oscar, dies aged 94". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Ionawr 2022.
  2. "Sidney Poitier First Black Ever To Receive 'Best Actor' Oscar". Variety (yn Saesneg). 14 Ebrill 1964. Cyrchwyd 20 Chwefror 2021.
  3. "Sir [sic] Sidney Poitier, best known Bahamian, honored" (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Chwefror 2015.
  4. Poitier, Sidney (1980). This Life. US, Canada: Knopf (US), Random House (Canada). tt. 2, 5.
  5. "Davis Smiley interviews Sidney Poitier" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mawrth 2009.
  6. Adam Gourmand, Sidney Poitier: Man, Actor, Icon (2004), pg. 8. (Saesneg)