Trefedigaeth y Goron

Tiriogaeth dramor Brydeinig a reolir yn uniongyrchol gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, trwy awdurdod y Goron, yw trefedigaeth y Goron. Y fath hon o diriogaeth oedd yn nodwedd o'r Ymerodraeth Brydeinig o ddechrau'r 19g hyd ddiwedd yr 20g. Nid oedd gan drefedigaethau'r Goron gynrychiolwyr yn Senedd y Deyrnas Unedig. Rheolai trefedigaeth y Goron gan lywodraethwr a benodir gan y Goron ac yn atebol i Lundain (Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, ers 1966).[1]

Meddai'r llywodraethwr ar faint sylweddol o rym ac awdurdod, a chafodd ei gynorthwyo yn y blynyddoedd cynnar gan gyngor penodedig. Yn y 1820au a'r 1830au, cafodd y system ei diwygio mewn sawl tiriogaeth gan gyflwyno cynghorau deddfwriaethol ac gweithredol i gynorthwyo'r llywodraethwr. Gan amlaf, cafodd aelodau'r cynghorau eu penodi gan y llywodraethwr ei hunan. Yn ddiweddarach yn oes yr Ymerodraeth Brydeinig, daeth ambell drefedigaeth y Goron i ddefnyddio cynghorau etholedig.

Dyluniwyd y system yn gyntaf gan yr Arglwydd Hawkesbury ar gyfer trefedigaeth Martinique. Ymledodd ei arferion i ynysoedd cyfagos yn India'r Gorllewin, gan gynnwys Trinidad a Sant Lwsia, ac yn ddiweddarach i Drefedigaeth y Penrhyn, Mawrisiws, Seilón, De Cymru Newydd, Tir Van Diemen, a Gorllewin Awstralia. O safbwynt yr awdurdodau Llundeinig, roedd poblogaethau'r tiriogaethau hyn yn anaddas ar gyfer llwyodraeth gynrychioladol gan yr oeddynt naill ai'n frodorion y tir neu yn wladfeydd cosb.[1]

Nid oedd pob rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig yn drefedigaeth y Goron. Cafodd ambell diriogaeth ei rheoli gan gwmnïau preifat, er enghraifft India dan Gwmni India'r Dwyrain. Rhoddwyd ymreolaeth trwy statws dominiwn i'r gwledydd a chanddynt boblogaeth wen sylweddol, sef Canada, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, Newfoundland, ac Iwerddon. Roedd nifer o drefedigaethau'r Goron yn brotectoriaethau ynghynt, gan gynnwys Aden, Nigeria, Sansibar, ac Wganda. Hong Cong oedd trefedigaeth olaf y Goron, nes ei hildio i Tsieina ym 1997.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Roland Wenzlhuemer, "Crown Colony" yn Thomas Benjamin (gol.), Encyclopedia of Western Colonialism since 1450, cyfrol 1 (Farmington Hills, Michigan: Thomson Gale, 2007), t. 288.

Gweler hefyd golygu