Sierra Madre Oriental
Cadwyn hir o fynyddoedd yn nwyrain Mecsico yw'r Sierra Madre Oriental neu'r Sierra Madre Dwyreiniol.[1] Mae'n ymestyn am 1000 km o Coahuila i gyfeiriad y de trwy Nuevo León, de-orllewin Tamaulipas, San Luis Potosí, Querétaro, a Hidalgo i ogledd Puebla, lle mae'n ymuno a'r Eje Volcánico Transversal yng nghanolbarth Mecsico.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Coahuila, Nuevo León, Tamaulipas, San Luis Potosí, Hidalgo, Puebla, Querétaro |
Gwlad | Mecsico |
Uwch y môr | 3,700 metr |
Cyfesurynnau | 25.37°N 100.55°W |
Hyd | 1,300 cilometr |
Cadwyn fynydd | American Cordillera |
- Erthygl am y gadwyn ym Mecsico yw hon. Gweler hefyd Sierra Madre (gwahaniaethu).
Y pwynt uchaf yw Cerro Potosí, 3713 medr. Copa uchaf arall yn y gadwyn yw El Coahuilón, tua 3460 medr.
Gorwedd Gwastadedd Arfordirol Gwlff Mecsico i'r dwyrain o'r gadwyn, rhyngddi a Gwlff Mecsico. Mae Llwyfandir Mecsico, sy'n gorwedd ar gyfartaledd 1,100 m i fyny, yn gorwedd rhwng y Sierra Madre Oriental a'r Sierra Madre Occidental i'r gorllewin.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 70.