Sierra Madre Occidental
mynyddoedd
Cadwyn o fynyddoedd yng ngogledd-orllewin Mecsico (yn bennaf) a rhan o dde Arizona, UDA, yw'r Sierra Madre Occidental neu'r Sierra Madre Gorllewinol.[1]
Tair cadwyn Sierra Madre Mecsico yn cynnwys (ar y chwith) y Sierra Madre Occidental | |
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Mecsico |
Arwynebedd | 289,000 km² |
Uwch y môr | 10,863 troedfedd |
Cyfesurynnau | 26.7457°N 108.0579°W |
Hyd | 1,250 cilometr |
Cadwyn fynydd | Pacific Coast Ranges |
- Erthygl am y gadwyn ym Mecsico yw hon. Gweler hefyd Sierra Madre (gwahaniaethu).
Mae'r gadwyn yn ymestyn am 1500 km trwy dde-ddwyrain Arizona (i'r de a dwyrain o Tucson), i gyfeiriad y de-ddwyrain trwy ddwyrain Sonora, gorllewin Chihuahua, Durango, Zacatecas, ac Aguascalientes i Guanajuato, lle mae'n ymuno a'r Sierra Madre Oriental a'r Eje Volcánico Transversal yng nghanolbarth Mecsico. Ystyrir yn gyffredinol fod y mynyddoedd hyn yn rhan o'r cordillera Americanaidd, sy'n llawer mwy. Ystyr yr enw 'Sierra Madre' yw "Mam-fynydd(oedd)".
Y pwynt uchaf yn y gadwyn yw Cerro Mohinora (3250/3300 m).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 70.