Signe Bergman
Ffeminist o Sweden oedd Signe Bergman (10 Ebrill 1869 - 9 Mai 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Roedd Bergman yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw mudiad etholfraint Sweden, os nad efallai'r enwocaf yn ystod ei hoes.
Signe Bergman | |
---|---|
Ganwyd | 10 Ebrill 1869 Hedvig Eleonora församling |
Bu farw | 9 Mai 1960 Oscars församling |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros hawliau merched, female supporter of women's right to vote, golygydd, trysorydd |
Swydd | Q99231392, aelod o fwrdd |
Plaid Wleidyddol | Cymdeithas Genedlaethol y Meddwl Rhydd |
Tad | Johan Wilhelm Bergman |
Ganed Signe Wilhelmina Ulrika Bergman yn Hedvig Eleonora församling ar 10 Ebrill 1869; bu farw yn Oscars församling ac fe'i claddwyd ym Mynwent Northern. [1][2][3][4][5][6][7][8]
Roedd yn gadeirydd y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer y Beidlais i Fenywod (National Association for Women's Suffrage) neu LKPR yn 1914–1917 a dirprwy Sweden i'r Gynghrair Ryngwladol dros Rhoi'r Bleidlais i Fenywod yn 1909–1920. Hi oedd trefnydd cyngres Chweched Cynhadledd y Gynghrair Menywod Difrifol Ryngwladol (International Woman Suffrage Alliance) yn 1911 a golygydd papur y LKPR, Rösträtt för kvinnor (etholfraint y fenyw).
Magwraeth a dyddiau cynnar
golyguGanwyd Signe Bergman yn aelod o deulu o swyddogion y llywodraeth yn Stockholm a chafodd addysg dda ond anffurfiol. Treuliodd rai blynyddoedd ym Lloegr, lle bu'n gweithio yn sefydliad ei chefnder Martina Bergman-Österberg, yn ogystal â chynorthwyydd i ymchwilydd yn yr Amgueddfa Brydeinig, cyn iddi ddychwelyd i Sweden, lle bu'n gweithio fel clerc yn y Sveriges allmänna hypoteksbank. Roedd Bergman yn byw ar ei phen ei hun mewn cyfnod pan ystyriwyd ei fod yn fwy addas i fenyw dosbarth canol proffesiynol rannu ei fflat â chydymaith benywaidd! [9][10][11]
Newid y ddeddf
golyguYm 1902, cyflwynwyd dau gynnig ynghylch diwygio'r bleidlais i fenywod yn Senedd Sweden. Roedd y naill gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Hjalmar Hammarskjöld, a awgrymodd y dylid rhoi dwy bleidlais i ddynion priod, gan y gallant bleidleisio dros eu gwragedd hefyd. Cyflwynwyd cynnig arall gan Carl Lindhagen, a awgrymodd rhoi'r bleidlais i fenywod. Cododd awgrym Hammarskjöld gryn dicter ymysg ymgyrchwyr hawliau menywod, a ffurfiodd grŵp i gefnogi cynnig Lindhagen. Ar 4 Mehefin 1902, sefydlwyd Föreningen för Kvinnans Politiska Rösträtt (FKPR): cymdeithas lleol i Stockholm i ddechrau, ond daeth yn sefydliad cenedlaethol y flwyddyn wedyn.
Yn 1911 etholwyd Anna Whitlock i'r gadair gan ei bod yn niwtral oddi wrth unrhyw blaid gwlediddol, ond rhwng 1914 a 1917 Signe Bergman oedd Cadeirydd y gymdeithas; hi hefyd oedd golygydd cylchgrawn y gymdeithas.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol y Meddwl Rhydd.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. "Årsberättelser för landsföreningen och lokalföreningarna för kvinnans politiska rösträtt 1917". dyddiad cyhoeddi: 1918. lleoliad cyhoeddi: Stockholm. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf. https://core.ac.uk/download/pdf/83629477.pdf.
- ↑ Disgrifiwyd yn: "Signe Wilhelmina Ulrika Bergman 1869-04-10 — 1960-05-09 Rösträttskvinna". dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2020. https://gupea.ub.gu.se/bitstream/2077/52068/1/gupea_2077_52068_1.pdf. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf. https://core.ac.uk/download/pdf/83629477.pdf.
- ↑ Rhyw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. "Årsberättelser för landsföreningen och lokalföreningarna för kvinnans politiska rösträtt 1917". dyddiad cyhoeddi: 1918. lleoliad cyhoeddi: Stockholm. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf. https://core.ac.uk/download/pdf/83629477.pdf.
- ↑ Dyddiad geni: "Hedvig Eleonora kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/SSA/0006/C I/25 (1867-1869), bildid: 00012302_00186". t. 150. Cyrchwyd 16 Ebrill 2018.
183,April,10,,1,Signe Wilhelmina Ulrika.....Häradshöfding Johan Victor Bergman o h.h. Gunilda Carolina f. Hultbring, No18 Greffgatan...25
"Signe Wilhelmina Ulrika Bergman 1869-04-10 — 1960-05-09 Rösträttskvinna". dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2020. - ↑ Dyddiad marw: "Signe Wilhelmina Ulrika Bergman 1869-04-10 — 1960-05-09 Rösträttskvinna". dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2020.
- ↑ Man geni: "Hedvig Eleonora kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/SSA/0006/C I/25 (1867-1869), bildid: 00012302_00186". t. 150. Cyrchwyd 16 Ebrill 2018.
183,April,10,,1,Signe Wilhelmina Ulrika.....Häradshöfding Johan Victor Bergman o h.h. Gunilda Carolina f. Hultbring, No18 Greffgatan...25
"Signe Vilhelmina Ulrika, f. 1869 i Stockholm". Cyrchwyd 16 Ebrill 2018. "Signe Wilhelmina Ulrika Bergman 1869-04-10 — 1960-05-09 Rösträttskvinna". dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2020. - ↑ Man claddu: "Bergman, SIGNE VILHELMINA ULRIKA". Cyrchwyd 12 Ebrill 2017.
- ↑ Tad: "Signe Vilhelmina Ulrika, f. 1869 i Stockholm". Cyrchwyd 16 Ebrill 2018. "Signe Wilhelmina Ulrika, f. 1869 i Stockholm". Cyrchwyd 16 Ebrill 2018. "Bergman, Signe Vilhelmina Ulrika, f. 1869 i Hedvig Eleonora Stockholms stad, Kontorsbiträde". Cyrchwyd 16 Ebrill 2018.
- ↑ Galwedigaeth: "Signe Wilhelmina Ulrika Bergman 1869-04-10 — 1960-05-09 Rösträttskvinna". dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2020. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. https://core.ac.uk/download/pdf/83629477.pdf.
- ↑ Swydd: https://core.ac.uk/download/pdf/83629477.pdf.
- ↑ Aelodaeth: "Årsberättelser för landsföreningen och lokalföreningarna för kvinnans politiska rösträtt 1917". dyddiad cyhoeddi: 1918. lleoliad cyhoeddi: Stockholm. https://core.ac.uk/download/pdf/83629477.pdf. "Signe Wilhelmina Ulrika Bergman 1869-04-10 — 1960-05-09 Rösträttskvinna". dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2020.