Simone Weil
Athronydd ac awdures o Ffrainc oedd Simone Weil (3 Chwefror 1909 – 24 Awst 1943). Byddai weithiau'n ysgrifennu dan yr enw "Emile Novis".
Simone Weil | |
---|---|
Ffugenw | Émile Novis, S. Galois |
Ganwyd | 3 Chwefror 1909 Paris |
Bu farw | 24 Awst 1943 Ashford |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, athro ysgol uwchradd, llenor, hunangofiannydd, bardd, undebwr llafur, gwrthsafwr Ffrengig, dyddiadurwr, cyfieithydd |
Adnabyddus am | The Need for Roots, Gravity and Grace, La condition ouvrière, Reflections Concerning the Causes of Liberty and Social Oppression, Notebooks, Oppression and Liberty |
Gwobr/au | Ambassadors' Prize |
llofnod | |
Bywgraffiad
golyguGaned hi ym Mharis yn 1909, i deulu agnostig o dras Iddewig. Roedd yn hyddysg yn yr iaith Roeg erbyn ei bod yn 12 oed. Yn 1928 daeth yn gyntaf yn yr arholiadau am fynediad i'r École Normale Supérieure, lle astudiodd athroniaeth. Bu'n dysgu mewn ysgol i ferched yn Le Puy am gyfnod. Daeth yn amlwg mewn ymyrchu ar ran y gweithwyr. Yn 1934 cymerodd flwyddyn i ffwrdd o'i swydd fel athrawes i weithio mewn dwy ffatri, i gysylltu a'r gweithiwr cyffredin yn well. Yn 1936 ymladdodd dros y Weriniaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen. Tra yn Assisi yn yr Eidal yng ngwanwyn 1937, cafodd brofiad cyfriniol yn eglwys Sant Ffransis. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n byw yn Marseille am gyfnod, yna yn 1942 teithiodd i'r Unol Daleithiau ac yna i Loegr. Er bod ei hiechyd yn dirywio, roedd yn mynnu peidio bwyta dim mwy nag yr oedd pobl y rhan o Ffrainc oedd dan reolaeth yr Almaen yn ei fwyta, a chyfrannodd hyn at ei marwolaeth mewn sanatoriwm yn Ashford, Swydd Caint yn 1943.
Cafodd ei hathroniaeth ddylanwad mawr ar bobl mewn nifer o wledydd; yng Nghymru roedd yn un o'r prif ddylanwadau ar yr athronydd J. R. Jones.
Llyfryddiaeth
golygu- La Pesanteur et la Grace (1947)
- L'Enracinement
- Attente de Dieu (1950)
- Lettre à un religieux (1951)
- Oppression et Liberté (1955)