Assisi

dinas yn yr Eidal

Tref a chymuned (comune) yn nhalaith Perugia yn rhanbarth Umbria, yr Eidal, yw Assisi (Lladin: Asisium). Mae ganddi boblogaeth o 26,196. Mae’n enwog fel man geni Sant Ffransis o Assisi a Santes Chiara o Assisi.

Assisi
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth27,605 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Bethlehem, Santiago de Compostela, San Francisco, Wadowice, Monte Sant'Angelo, Ripacandida Edit this on Wikidata
NawddsantRufinus of Assisi Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Perugia Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd187.19 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr424 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBastia Umbra, Cannara, Perugia, Valfabbrica, Bettona, Nocera Umbra, Spello, Valtopina, Gualdo Tadino Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.07°N 12.6175°E Edit this on Wikidata
Cod post06081 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Assisi Edit this on Wikidata
Map
Balisica Sant Ffransis, Assisi

Sefydlwyd municipium Asisium gan y Rhufeiniaid ar lethrau Mynydd Subasio. Gellir gweld llawer o weddillion Rhufeinig yn y dref hyd heddiw. Trowyd trigolion y dref at Gristionogaeth yn 238 OC gan yr esgob Rufino. Yn 545 dinistriwyd rhan helaeth o’r dref gan yr Ostrogothiaid dan eu brenin Totila. Yn yr 11g daeth yn ddinas annibynnol, a bu llawer o ymladd rhyngddi hi a Periwgia. Dechreuodd ddirywio o ganlyniad i’r Pla Du yn 1348.

Ganed Sant Ffransis yma yn 1186. Yn fuan wedi i’r Eglwys Gatholig ei gyhoeddi yn sant yn 1228, dechreuwyd adeiladu Basilica San Francesco d'Assisi, yn cynnwys mynachlog Ffransiscaidd a dwy eglwys. Enwyd y basilica, sy’n cynnwys arlunwaith ffresco gan Cimabue a Giotto, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Effeithiwyd ar Assisi gan y ddaeargryn a darawodd Umbria yn 1997, a wnaeth lawer o ddifrod i adeiladau, ond ers hynny gwnaed llawer o waith adfer.