Sioni Winwns
Sioni Winwns oedd y term a ddefnyddid yng Nghymru am y gwerthwyr wynwyn o Lydaw a fyddai'n dod drosodd i werthu o ddrws i ddrws. Erbyn hyn, maent bron wedi diflannu, ond ar un adeg roeddynt yn olygfa gyfarwydd iawn.
Deuai'r rhan fwyaf o'r ardal o gwmpas porthladd Rosko yng ngorllewin Llydaw. Tyfir llawer o wynwyn yn yr ardal hon, ac wedi'r cynhaeaf ym mis Gorffennaf byddent yn dod drosodd i Gymru, Lloegr a'r Alban, ac aros fel rheol tan fis Rhagfyr neu Ionawr. Ymddengys i'r fasnach ddechrau yn 1828. Cyrhaeddodd nifer y Sioni Winwns ei uchafbwynt yn y 1920au, ond lleihaodd y nifer yn dilyn y Dirwasgiad Mawr. Dysgodd cryn nifer o'r rhai oedd yn ymweld yn rheolaidd a Chymru siarad Cymraeg. Ceir amgueddfa Sioni Winwns yn Rosko.
Hanesion unigol
golygu- Byd bach y Sionis
”Ym mis Mai 1990 yn ystod taith gerdded ar arfordir Llydaw, digwyddodd peth hollol anhygoel i mi ar y daith wrth agosáu at Morlaix. Mi gerddais i mewn i ‘Tabac’ mewn pentre’ bach o’r enw St.Michel-en-Greve, ac ar ôl gofyn am ddiod yn Ffrangeg dyma’r perchennog yn dechrau siarad fel trên yn yr iaith. Dyma roi stop arno a dweud taw o Pays de Galles roeddwn yn dod ohoni. Mewn tipyn dyma fe’n dweud bod yr hen ddyn oedd yn eistedd yn y cornel, Roget, wedi bod yng Nghymru yn gwerthu winwns. Dyma fi yn mynd draw, ac er taw dim ond bach iawn o Ffrangeg oedd gennyf, mi lwyddwyd y ddau ohonom ddeall ein gilydd trwy Llydaweg a Chymraeg gan ei fod wedi dysgu tipyn yn y blynyddoedd oedd yn dod draw rhwng 1961 a 1975. Ond y peth mwya anhygoel oedd ei fod wedi bod yn sefyll mewn stablau tu cefn i dafarn o’r enw'r ‘Coopers’ yn Betws, Rhydaman, ac yr oeddwn i wedi symud i fyw drws nesa’ i’r Coopers yn 1968 wrth weithio yn y Frigâd Dan. Rwy’n cofio gweld y dynion Sioni Winwns yno, roedd pedwar ohonynt yn ôl Roget. Ar ôl dod dros y sioc, dyma fe’n dechrau gofyn i mi am bobol oedd wedi galw arnynt yn yr ardal, ac yr oeddwn yn nabod llawer ohonynt. Cefais hanes yr holl ardal oedd y pedwar ohonynt yn mynd i werthu’r winwns. Erbyn hyn roedd y cwrw wedi dechrau llifo, a does dim llawer o gof gennyf am y pum milltir arall oedd gennyf i fynd cyn cyrraedd y gwersyll oeddwn yn sefyll yno, ac yn y bore oedd yn syndod fod y babell ar ei thraed o hyd!!![1]
Llyfryddiaeth
golygu- Gwyn Griffiths Sioni Winwns Llyfrau Llafar Gwlad 53 (Gwasg Carreg Gwalch, 2002) ISBN 0863817769
Dolenni allanol
golygu- ↑ Bryan Jones ym Mwletin 58 Llên Natur