Siop Nain
siop rhestredig Gradd II yn Rhuthun
Tŷ, siop a chyn weithdy argraffu ydy Siop Nain a leolir yn 6 Stryd y Ffynnon, Rhuthun, Sir Ddinbych. Mae'n adeilad Gradd II sy'n dyddio'n ôl i 1490.
Siop Nain 6 Stryd y Ffynnon | |
---|---|
Siop Nain | |
Siop Nain yn 2013 | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Statws | Cwblhawyd |
Math | Tŷ-trefol |
Lleoliad | Rhuthun, Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Torri'r dywarchen gyntaf | 1490 |
Gwefan | |
Cadw | |
Ffynhonnell | |
Cadw 941 |
Yn 1850 defnyddiwyd yr adeilad gan Isaac Clarke, cyhoeddwr, a argraffodd y copiau cyntaf o Hen Wlad fy Nhadau yn yr adeiladau yng nghefn y siop.

Cafodd yr adeilad ei gofrestru am ei fod yn adeilad pren o'r canoloesoedd sydd wedi cadw llawer o fanylion a chymeriad y cyfnod, gyda nodweddion diddorol hefyd o'r 17eg a'r 19g. Yr ail reswm dros ei gofrestru yw'r cysylltiad gyda'r anthem genedlaethol.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Listed Buildings Website; accessed 18 September 2014.