Isaac Clarke

cyhoeddwyr

Roedd Isaac Clarke (18245 Ebrill 1875) yn berchennog papur newydd, argraffydd a chyhoeddwr yn Rhuthun. Ef gyhoeddodd anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad fy Nhadau, am y tro cyntaf.

Isaac Clarke
Ganwyd1824 Edit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ebrill 1875 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyhoeddwr, argraffydd, perchennog papur newydd Edit this on Wikidata
Safle argraffdy Isaac Clarke yn Stryd y Ffynnon, Rhuthun; 2013.
Y copi cynharaf o Hen Wlad fy Nhadau, 1856

Nid yw dyddiad geni Clarke yn hysbys, ond gwyddom iddo gael ei fedyddio yn Eglwys Plwyf yr Wyddgrug ar 24 Ebrill 1824. Ei rieni oedd Robert a Ruth Clarke o Goed-llai. Ffermwr oedd ei dad, ond dewisodd yntau ddilyn trywydd gwahanol gan fwrw prentisiaeth fel argraffydd gyda Hugh Jones yn yr Wyddgrug. Yn 1845, fe'i penodwyd yn oruchwyliwr i gwmni argraffu Nathan Maddocks yn Rhuthun. Yn 1850, sefydlodd ei argraffdy ei hun yn 6 Stryd y Ffynnon, bellach yn 'Siop Nain'.

Mae cofeb iddo yn Eglwys Sant Pedr, Rhuthun, ac arno nodir iddo farw ar 5 Ebrill 1875.

Hen Wlad fy Nhadau

golygu

Yn argraffdy Isaac Clarke yn 'Siop Nain' y gosodwyd Hen Wlad fy Nhadau mewn print am y tro cyntaf. Roedd y darn wedi'i gyflwyno gan ei gyfansoddwr James James (Iago ap Ieuan) o Pontypridd i gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1858. Roedd yn un o gasgliad o alawon gwerin nad oedd wedi'u cyhoeddi o'r blaen. Er na fu James yn fuddugol gyda'i gasgliad, gwnaeth y darn argraff ar y beirniad Owain Alaw, ac ysgrifennodd at James James i ofyn a gai ei gynnwys yn ei gyfrol Gems of Welsh Melody. Cytunodd James iddo gael ei gyhoeddi, a chyhoeddwyd y gyfrol yn 1860, ond dywedir ei fod yn siomedig gyda'r addasiadau wnaeth Owain Alaw iddi.

Cyfeiriadau

golygu