Siwsi Dôl y Clochydd

Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol a oedd yn byw yn ardal Brithdir, Dolgellau.

Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd Siwsi Dôl y Clochydd ac roedd yn byw yn ardal Llanfachreth ger Brithdir, Dolgellau.

Siwsi Dôl y Clochydd
Man preswylLlanfachreth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwrach Edit this on Wikidata

Yn ôl y chwedl, roedd arfer bod llawer o geirw yn y ardal, ac roedd arglwydd Nannau yn hoff o’u hela. Ond, er ei fod yn dda iawn am hela’r anifeiliaid, ni fyddai’n gallu eu dal ger Afon Las. Pan oedd y cŵn ar fin dal y ceirw, byddent yn neidio dros yr afon a diflannu. Roedd hyn yn ddigwyddiad aml. Yn y pen draw, sylweddolodd yr Arglwydd mai Siwsi oedd yn gyfrifol.

Arferai newid i ffurf ewig, a mi fyddai’r helwyr yn ei cholli. Adeiladwyd pont dros yr afon, a galwyd hi’n "Bont Llam yr Ewig".

Chwedl am Owain ei chariad

golygu

Ceir chwedl am un o weision Plas Nannau, sef Owain, a oedd yn gariad i Siwsi. Un diwrnod tra'n cerdded syrthiodd dros ei ben i mewn i Lyn Cynnwch, ond yn hytrach na boddi, gallai anadlu'n iawn, a cherddodd o dan y dwr gan chwilio am ei gariad. Wedi peth ymddiddan gyda chorach tew, arweiniodd hwnnw ef o dan cartref Siwsi, a chododd Owain o'r byd tanddaearol a chafodd ei hun o flaen drws ei chartref. Yno, roedd Siwsi'n llefain, a phan welodd Owain credai mai ysbryd ydoedd, gan iddo fod ar goll, nid am ddiwrnod, ond am fis cyfan.[1]

Gwrach y Gwyllt

golygu

Yn 2003 cyhoeddodd Bethan Gwanas nofel seiliedig ar hanes Siwsi Dôl y Clochydd, Gwrach y Gwyllt.[2]. Ym mis Medi 2019 dywedodd Gwanas bod cyfrol dilyniant Merched y Gwyllt ar y gweill.[3]

Cyfeiriadau

golygu