Llanfachreth, Gwynedd

pentref yng Ngwynedd

Mae Llanfachreth ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd Llanfachraeth neu Llanfachraith) yn bentref ym Meirionnydd, Gwynedd. Saif i'r gogledd o dref Dolgellau rhwng Afon Wnion ac Afon Wen. I'r gogledd ceir bryn uchel Rhobell Fawr. Mae'n rhan o gymuned Brithdir a Llanfachreth.

Llanfachreth
Mathpentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMachraeth o Feirion Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaDolgellau Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.78°N 3.84°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH755225 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Peidiwch â chymysgu y pentref hwn â Llanfachraeth, Ynys Môn.

Roedd Plwyf hanesyddol Llanfachreth yn cynnwys pentref Rhydymain, pentrefan Drws y Nant a'r rhan o bentref Llanelltud sydd i'r ddwyrain o afon Mawddach[1]

Plasty hynafol ac ystâd y Nannau yn Llanfachreth.[2] Ym mharc ceirw plasty'r Nannau roedd Ceubren yr Ellyll yn arfer sefyll cyn ei tharo gan mellten yn y 19eg ganrif. Wedi i Hywel Sele arglwydd Nannau bradychu Owain Glyn Dŵr yn 1402, lladdodd Owain ef a chuddiodd ei gorff yn y ceubren a daeth y ceubren yn lle melltigedig wedi hynny.[3]

Yn yr Oesoedd Canol roedd plwyf Llanfachraeth yn rhan o gwmwd Tal-y-bont, Cantref Meirionnydd ac yn cynnwys Abaty Cymer.

Gwasanaethir plant y pentref a'r cylch gan Ysgol Llanfachreth, sydd yn nhalgylch Ysgol y Gader, Dolgellau.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. GENUKI. "Genuki: Llanfachreth, Merionethshire". www.genuki.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-03.
  2. "The History of the Nannau Estate in Wales". Nannau (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-03.
  3. Cymru Fu gol Isaac Foulkes (Llyfrbryf 1836-1904) pennod Ceubren yr Ellyl ar Wicidestun
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato