Blogwr ac actifydd rhyngrwyd o Tiwnisia yw Slim Amamou. Roedd yn un o sefydlwyr y Partie Pirate Tunisien (Plaid Beirat Tiwnisia), sy'n aelod o'r Pleidiau Peirat Rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae'n Weinidog Ieuenctid a Chwaraeon yn llywodraeth dros dro Tiwnisia.

Slim Amamou
Ganwyd8 Tachwedd 1977 Edit this on Wikidata
Tiwnis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTiwnisia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Sousse Edit this on Wikidata
Galwedigaethblogiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPirate Party Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://nomemoryspace.wordpress.com/ Edit this on Wikidata

Yn blogio wrth yr enw "Slim 404" (cyfeiriad slei at "Ammar 404"), mae'n un o flogwyr mwyaf adnabyddus Tiwnisia, yn enwedig fel golygydd ReadWriteWeb, a chafodd sylw ehangach pan gafodd ei arestio gan lywodraeth Zine el-Abidine Ben Ali ar 6 Ionawr 2011 yn ystod y 'Chwyldro Jasmin'.[1]. Daeth yr heddlu cudd i'w gartref yn Tunis i'w arestio am 1330 ar y 6ed o Ionawr. Roedd eisoes wedi rhybuddio ei ffrindiau eu bod yn gwylio ei gartref. Trwy ddilyn ei alwad ffôn olaf, darganfuwyd iddo wneud hynny yn adeilad y Ministère de l'intérieur ar Avenue Habib Bourguiba, Tunis.[2] Cafodd ei ddal yno am rai dyddiau a bu ymgyrch rhyngwladol gan ei gyfeillion y tu allan i Tiwnisia i sicrhau ei ryddid.

Ar ôl i Zine el-Abidine Ben Ali, cyn arlywydd Tiwnisia, ffoi o'r wlad rhoddwyd lle i Slim Amamou yn y 'llywodraeth undeb cenedlaethol' a ffurfwyd gan Mohamed Ghannouchi.[3]. Dyma'r tro cyntaf erioed i aelod o un o'r pleidiau peirat gael sedd mewn llywodraeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Arrestio'r blogwr Slim Amamou (ReadWriteWeb)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-02-04. Cyrchwyd 2011-01-18.
  2. "Arrestation du blogueur Slim Amamou" Archifwyd 2011-01-21 yn y Peiriant Wayback.. Al-Nawaat, 06 Ionawr 2011.
  3. Guillaume Champeau, "Arrêté sous Ben Ali, le blogueur Slim Amamou devient ministre !", Numerama, 17 Ionawr 2011.

Dolenni allanol golygu