Slofaceg

iaith Indo-Ewropeaidd sydd yn un o'r ieithoedd Slafonaidd gorllewinol

Iaith Indo-Ewropeaidd sydd yn un o'r ieithoedd Slafonaidd gorllewinol yw Slofaceg. Mae'n perthyn i'r ieithoedd Tsieceg, Pwyleg, Sileseg, Cashwbeg, a Sorbeg. Y Slofaceg yw iaith swyddogol Slofacia, ac yno fe'i siaredir gan 5.51 miliwn o bobl. Ceir hefyd nifer o siaradwyr yn Tsiecia.

Mae'r Slofaceg yn perthyn yn agos iawn i'r Tsieceg, a cheir cymaint o gyd-eglurder rhyngddynt bod modd rhoi'r holl dafodieithoedd Slofaceg a Tsieceg ar gontinwwm ieithyddol, ac eithrio'r tafodieithoedd yn nwyrain Slofacia a Tsieceg Bohemia.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Slovak language. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Mehefin 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.