Slovo o polku Igoreve

Un o brif weithiau llenyddiaeth ganoloesol y Slafiaid dwyreiniol yw Slovo o polku Igoreve ('Hanes ymgyrch Igor') (Hen Slafoneg Ddwyreiniol Слово о плъку Игоревѣ / Slovo o plŭku Igorevě, Rwseg Слово о полку Игореве / Slovo o polku Igoreve, Wcreineg Слово о полку Ігоревім / Slovo o polku Ihorevim). Mae'r gwaith yn adrodd tynged ymgyrch aflwyddiannus Tywysog Igor Svyatoslavich o Novgorod-Seversk (heddiw, Novhorod-Siverskyi, Wcráin) yn erbyn llwyth crwydrol y Polovtsy. Mae Igor yn cael ei ddal gan y Polovtsy, ond mae'n llwyddo i ddianc yn arwrol. Prif thema'r gwaith yw diffyg undod ymysg y tywysogion Slafonaidd. Fe'i dadansoddir yn aml fel galwad i'r tywysogion uno yn erbyn bygythiadau allanol. Mae'n waith gweddol fyr, wedi'i ysgrifennu mewn rhyddiaith ac elfennau barddol ynddi. Cafodd yr hanes ei addasu ar ffurf opera gan y cyfansoddwr Rwsiaidd Aleksandr Borodin. Perfformiwyd Y Tywysog Igor (Knyaz Igor) am y tro cyntaf ym 1890 yn St Petersburg.

Darluniad o'r hanes gan Ivan Bilibin

Cafwyd o hyd i'r unig lawysgrif gan yr hynafiaethydd Aleksey Musin-Pushkin yn 1795 mewn llyfrgell mynachlog yn Yaroslavl. Cyhoeddodd yntau drawsgrifiad ohoni yn 1800, ond cyn i'r llawysgrif gael ei hastudio'n drwyadl gan ysgolheigion eraill, fe'i distrywiwyd yn Nhân Mawr Moscow 1812. Roedd darganfyddiad y Slovo wedi creu stwr yng nghylchoedd llenyddol dros Ewrop, ond roedd rhai hefyd wedi codi cwestiynau ynglŷn â'i ddilysrwydd. Roedd hyn yn adeg pan roedd gweithiau llenyddiaeth ffug wedi ymddangos mewn sawl gwlad, megis cylch barddoiaeth Ossian gafodd ei ffugio gan James Macpherson yn yr Alban, a llysgrifau canoloesol Tsieceg gafodd eu ffugio gan Václav Hanka. Mae'r ddadl am ddilysrwydd y gwaith wedi parhau hyd heddiw. O blaid dilysrwydd y gwaith mae dadlau ieithyddol - mae iaith y Slovo yn ddilys â ffrwyth dwy ganrif o ymchwil ar ieitheg Slafoneg, ond nid oedd gan unrhyw hynafiaethydd neu ieithydd y cyfnod mo'r cywreinrwydd i ffugio'r llawysgrif mor berffaith. Er nad oes bron dim cyfeiriad at y Slovo mewn gweithiau llenyddol canoloesol arall, mae un, y Zadonshchina fel petai ei fod wedi llunio ar batrwm y Slovo i'w ddynwared a gwrthdroi'r canlyniad. Mae cefnogwyr dilysrwydd y Slovo yn awgrymu i'r Zadonshchina gael ei gyfansoddi mewn ymateb i'r Slovo, tra bod ei ddirmygwyr yn hawlio i ffigwyr y Slovo ddefnyddio'r Zadonshchina fel ffynhonnell. Mae prif thema'r Slovo, undod Slafonaidd, wedi ymddangos yn rhy fodern i rai dehonglwyr, gan ei bod yn awgrymu Pan-Slafiaeth Rhamantaidd, mudiad a ddatblygodd yn yr 18fed a'r 19goedd yn unig.