Zadonshchina
Gwaith llenyddol Rwseg o'r 14eg neu'r 15g yw'r Zadonshchina ('Hanes am y tir y tu hwnt i Afon Don'). Mae'n disgrifio Brwydr Kulikovo Pole, lle bu lluoedd Moscow o dan arweinyddiaeth y Tywysog Dmitry Donskoy yn fuddugol yn erbyn y Mongoliaid o dan Mamai ym 1380.
Mae awdur y gwaith yn enwi ei hun fel Sofony, offeiriad yn ninas Ryazan (prif ddinas Oblast Ryazan heddiw). Mae'r gwaith yn atseinio themâu, delweddau ac iaith un o weithiau canoloesol amlycaf Rwsia, y Slovo o polku Igoreve, ond yn eu gwrthdroi. Tra bod y Slovo yn disgrifio diffyg undod y Slafiaid a'u gorchfygu dan ddwylo llwythi dwyreiniol, mae'r Zadonshchina yn moliannu eu hundod ac yn dathlu buddugoliaeth filwrol fwyaf Moscfa, digwyddiad a arweiniodd at ryddhâd y Rwsiaid o orthrwm y Mongoliaid.