Slumdog Millionaire (ffilm)
Mae Slumdog Millionaire (2008) yn ffilm ddrama a gyfarwyddwyd gan Danny Boyle ac a ysgrifennwyd gan Simon Beaufoy. Mae'r ffilm yn seiliedig ar y llyfr Q and A a ysgrifennwyd gan yr awdur a'r diplomydd Indiaidd Vikas Swarup. Dechreuodd Loveleen Tandan fel cyfarwyddwr castio'r ffilm ond yna cafodd ei apwyntio'n cyd-gyfarwyddwr gan Boyle.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Danny Boyle |
Cynhyrchydd | Christian Colson |
Ysgrifennwr | Simon Beaufoy |
Serennu | Dev Patel Freida Pinto Anil Kapoor Irrfan Khan |
Cerddoriaeth | A. R. Rahman |
Sinematograffeg | Anthony Dod Mantle |
Golygydd | Chris Dickens |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Fox Searchlight (UDA) Pathé (rhyngwladol) |
Dyddiad rhyddhau | 12 Tachwedd 2008 (cyfyngedig) Ionawr 2009 (India) |
Amser rhedeg | 120 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg Hindi |
Gwefan swyddogol | |
Mae ffilm, a ffilmwyd yn yr India, yn adrodd hanes gŵr ifanc o slymiau Mumbai sy'n ymddangos ar sioe deledu. Gwnaiff yn llawer gwell na'r disgwyl ar y rhaglen, sy'n peri i gyflwynydd y sioe ac awdurdodau'r gyfraith ei amau.
Rhyddhawyd y ffilm i gynulleidfa gyfyng ar y 12fed o Dachwedd 2008 ar ôl i'r ffilm gael ei dangos yng Ngwyl Ffilmiau Telluride a Gwyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto. Derbyniodd y ffilm ganmoliaeth fawr a gwobrau niferus. Cipiodd y ffilm bum gwobr o'r chwech categori lle y cafodd ei henwebu yng Ngwobrau Dewis y Beirniaid (y Critics Choice Awards) ar yr 8fed o Ionawr, 2009. Cipiodd gategorïau y Cyfarwyddwr Gorau, Sgript Orau, Actor/Actores Ifanc Gorau, Cyfansoddwr Gorau a'r Ffilm Orau.
Yng Ngwobrau'r Golden Globes 2008, enillodd y ffilm bedair gwobr am y Ffilm Ddrama Orau, y Cyfarwyddwr Gorau (Danny Boyle), y Sgript Orau (Simon Beaufoy) a'r Sgôr Cerddorol Orau (A.R. Rahman). Rahman yw'r Indiad cyntaf i ennill Golden Globe am gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd â ffilm.[1] Cafodd y ffilm ei henwebu am 10 o Wobrau'r Academi gan ennill wyth ohonynt, gan gynnwys y Ffilm Orau. Roedd y ffilm hefyd yn ddadleuol oherwydd ei phortread o'r India a Hindwaeth yn ogystal â lles y plant a oedd yn actio ynddi.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan Hindu.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-10. Cyrchwyd 2009-01-12.