Digwyddiad chwaraeon yw snorcelu cors lle mae cystadleuwyr yn mynd ar hyd ffos llawn ffos llawn dŵr sdd wedi'i thorri mewn cors fawn yn yr amser byrraf posibl. Rhaid i gystadleuwyr wisgo snorcelau a ffliperi a chwblhau'r cwrs heb ddefnyddio strôc nofio confensiynol, gan ddibynnu ar bŵer y ffliperi yn unig. Nid oes rhaid gwisgo siwt wlyb, ond mae'r snorclwyr fel arfer yn ei gwisgo.

RUD 2821 resize.JPG
Cystadleuydd yn Mhencampwriaeth Snorclo Cors y Byd, Llanwrtyd

Hyd y ffos yw 60 llath (55m), sy'n cael ei groesi ddwywaith i wneud y cwrs yn gyfanswm o 120 llath (110m).[1]

Dechreuwyd y gweithgaredd o snorclo cors ym 1976 ger Llanwrtyd ym Mhowys. Dechreuodd o ganlyniad i sgwrs dros y bar yn y Neuadd Arms rhwng Gordon Green a rhai o ffyddloniaid y dafarn.  

Mae Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd, a gynhaliwyd gyntaf ym 1985, yn cael ei chynnal bob Gŵyl Banc ym mis Awst yng nghors fawn drwchus Waen Rydd, ger Llanwrtyd.

Gosodwyd y record byd gan Neil Rutter ar gors Waen Rydd, Llanwrtyd, ar 26 Awst 2018 gydag amser o 1 munud 18.81 eiliad. Gorffennodd Paddy Lambe ddigwyddiad pencampwriaeth Iwerddon mewn 1 munud 19 eiliad ym mis Medi 2016.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Irish Bog Snorkelling (2009), 'World Record Smashed Twice!! 1st ever Irish Bog Snorkelling Championships a Huge Success. Irish Bog Snorkelling' 2012-07-29 o "Copi wedi'i archifo". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 2012-07-29. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)