Sofía Hernández Salazar
Ymgyrchydd hawliau dynol a hinsawdd o Gosta Rica yw Sofía Hernández Salazar (ganwyd 26 Awst 1998).
Sofía Hernández Salazar | |
---|---|
Ganwyd | 26 Awst 1998 San Jose, Califfornia |
Dinasyddiaeth | Costa Rica |
Alma mater | |
Galwedigaeth | amddiffynnwr hawliau dynol, amgylcheddwr |
Bywgraffiad
golyguBu Sofía yn fyfyriwr gwyddoniaeth wleidyddol ym Mhrifysgol Costa Rica. Yn 2021 roedd yn drefnydd ar gyfer Gwener y Dyfodol Costa Rica, yn gydlynydd Escazú Ahora Costa Rica ac yn 'Arweinwyr Ifanc Costa Rica'. Cydweithiodd Hernández â Menter Re-Earth ar gyfer Diwrnod y Ddaear 2020 a chyd-sefydlodd Latinas For Climate. Mynychodd Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2019 fel rhan o ddirprwyaeth Costa Rica.[1]
Ymunodd â Gwener y Dyfodol Costa Rica ganol 2019 ac yn aelod o'r un o’i streiciau cyntaf o flaen carterf Arlywydd Costa Rica, ac yn rhan o sgwrs gydag Arlywydd y Weriniaeth, Carlos Alvarado, ac actifyddion eraill ynglŷn â phwysigrwydd datgan argyfwng oherwydd newid hinsawdd. Pwysleisiodd y dylai gwladwriaethau roi cyfle i bobl ifanc wneud penderfyniaidau a oedd yn eu heffeithio nhw [2]. Yn dilyn hynny, cymerodd Sofia ran sawl tro mewn trafodaethau gyda Is-lywydd, Costa Rica, Epsy Campbell, lle anogodd y dylid cadarnhau Cytundeb Escazú[3] fel mater o frys.[4]
Er mis Medi 2020 mae hi'n un o gydlynwyr Escazú Now, menter a drefnwyd gan Fridays For Future Costa Rica, Greenwolf Costa Rica a'r Rhwydwaith Ieuenctid a Newid Hinsawdd lleol sy'n ceisio cadarnhau a gweithredu Cytundeb Escazú yn y wlad.
Yn Rhagfyr 2020, roedd Hernández yn rhan o grŵp byd-eang o 9 o ferched (ac actifyddion nad ydynt yn ddeuaidd) a gyhoeddodd lythyr at arweinwyr byd-eang ar Thomson Reuters Foundation News, o'r enw "Gan fod Cytundeb Paris ar Newid Hinsawdd yn bump oed, mae angen gweithredu brys ar fygythiadau hinsawdd, nawr". Roedd y grŵp rhyngwladol yn cynnwys Mitzi Jonelle Tan, Belyndar Rikimani, Leonie Bremer, Laura Muñoz, Fatou Jeng, Disha Ravi, Hilda Flavia Nakabuye a Saoi O'Connor. [5] Gweithiodd i drefnu'r Ffug COP26 ac roedd yn ddirprwy dros Costa Rican.[6][7][8][9]
Gweithiau
golygu- Dewch i Ddiwrnod y Ddaear ein hysbrydoli i ymladd dros Gyfiawnder Hinsawdd | Lleisiau Ieuenctid, Ebrill 23, 2020
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "4 Young Climate Activists on Intersectionality in Climate Justice, Fighting From Home, and More". Green Matters (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-06.
- ↑ "PRESIDENTE CARLOS ALVARADO SE REÚNE CON JÓVENES DE FRIDAYS FOR FUTURE COSTA RICA". Presidencia de la República de Costa Rica.
- ↑ Campbell, Epsy. "El día de hoy recibimos en @presidenciacra voceras y voceros de la campaña EscazuAhoraCR, una red de jóvenes de diversas organizaciones que se unieron para exigir la ratificación de este Acuerdo Regional". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.
- ↑ Perez, Wendy (2020-10-24). "Representantes del Gobierno se reúnen con ambientalistas para discutir pesca de arrastre". El Mundo CR (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2021-05-08.
- ↑ Foundation, Thomson Reuters. "There's no time left for diplomacy. Now it's time for action". news.trust.org. Cyrchwyd 2021-05-06.
- ↑ Goering, Laurie (2020-11-09). "As virus delays climate summit, youth 'Mock COP' takes (virtual) floor". Reuters (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-06.
- ↑ "The UN canceled its 2020 climate summit. Youth held one anyway". Grist (yn Saesneg). 2020-11-30. Cyrchwyd 2021-05-06.
- ↑ "Youth Activists Are Holding Their Own Climate Summit After COP26 Gets Delayed Due to COVID-19". Global Citizen (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-06.
- ↑ "'We want real action': young activists aim to fill void on climate with Mock Cop26". the Guardian (yn Saesneg). 2020-11-10. Cyrchwyd 2021-05-06.
Dolenni allanol
golygu- Sofía Hernández ar Instagram