Cefnogwr diddymu caethwasiaeth a hawliau merched o dras Americanaidd Affricanaidd oedd Sojourner Truth (tua 1797). Ganwyd hi'n gaethwas yn Swartekill, Efrog Newydd, ond dihangodd gyda'i merch fach i ryddid ym 1826. Ar ôl mynd i'r llys i gael ei mab yn ôl, hi oedd y fenyw ddu gyntaf i ennill achos o'r fath yn erbyn dyn gwyn. Cafodd y llysenw Isabella ("Bell") Baumfree pan anwyd hi ond cymerodd hi'r enw Sojourner Truth arni ym 1843. Rhoddodd ei haraith o'r frest fwyaf adnabyddus ar anghydraddoldeb ar sail rhyw, Ain't I a Woman?, ym 1851 yng Nghymanfa Hawliau Merched Ohio yn Akron. Yn ystod Rhyfel Cartref America, roedd Truth yn helpu i recriwtio milwyr duon ym Myddin yr Undeb ac ar ôl y rhyfel, buodd hi'n aflwyddiannus yn ceisio sicrhau grantiau tir gan lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau ar gyfer cyn-gaethweision.

Sojourner Truth
FfugenwSojourner Truth Edit this on Wikidata
GanwydIsabella Baumfree Edit this on Wikidata
c. 1797 Edit this on Wikidata
Hurley Edit this on Wikidata
Bu farw26 Tachwedd 1883 Edit this on Wikidata
Battle Creek Edit this on Wikidata
Man preswylBattle Creek Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethamddiffynnwr hawliau dynol, diddymwr caethwasiaeth, ymgyrchydd dros hawliau merched, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Menywod Michigan Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://sojournertruthmemorial.org Edit this on Wikidata

Yn 2014, ychwanegodd cylchgrawn y Smithsonian Truth i restr o'r 100 Americanwr mwyaf arwyddocaol erioed.[1]

Llun o Sojourner Truth tua 1870 gan Randall Studios

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Meet the 100 Most Significant Americans of All Time", The Smithsonian, 17 Tachwedd 2014. Retrieved 14 Medi 2015.